Gofod A Rennir Astidiaeth Achos – The Wannabe Heroes

31/01/23

Roedd gan Ceri Blythe, sydd wedi bod ag angerdd dros gemau ers pan roedd e’n ifanc, weledigaeth i droi’r gweithgaredd gwrth-gymdeithasol yn un cymdeithasol, gan annog ymgysylltiad cymunedol lleol. Yng nghymdeithas heddiw, gellid ystyried gemau yn weithgaredd gwrth-gymdeithasol, yn aml yn cynnwys eistedd mewn ystafell ar ben eich hun yn chwarae gyda phobl nad ydych chi’n eu hadnabod o bedwar ban byd.  

Mae syniad busnes Ceri yn seiliedig ar y platfform Twitch, ym mherchnogaeth Amazon, i greu cymuned o gemwyr a chefnogwyr cyffredinol, gan godi arian yn uniongyrchol gan Amazon, i fwydo’n ôl i’r gymuned ar gyfer prosiectau elusennol lleol. Yn y pen draw, mae Ceri yn awyddus i gynnal cynghreiriau a chystadlaethau lleol, gyda gwobrau i’r enillwyr.

Gyda llawer o agweddau ar fusnes a syniadau i’w hystyried, cysylltodd Ceri â Gofod A Rennir Hwlffordd i gael cymorth ar ddechrau busnes newydd, i sicrhau bod ei weledigaeth yn hyfyw. Rhoddodd Ymgynghorydd Busnes Ceri, Shane Yates, gyngor busnes un i un a chymorth gyda’r cais grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes, a oedd yn golygu bod angen datblygu cynllun busnes.

Yn ogystal â llwyddo i gael y grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes i fuddsoddi i sefydlu The Wannabe Heroes, mae Ceri wedi ennill y wybodaeth a’r hyder i dyfu ac ehangu ei fusnes newydd, a fydd yn y pen draw yn rhannu’r neges drwy’r gymuned gemau, gan alluogi iddo fodloni ei dargedau a’i uchelgeisiau ar gyfer y busnes.

Ceri dywedodd:

“Byddem yn argymell yn gryf trafod eich syniadau busnes gyda Shared Spaces Hwlffordd os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar rywbeth ar eich cyfer chi yn bersonol. Roedd yn broses rwydd iawn ac os na fyddwch chi’n mynd amdani, mae’n bosibl y byddwch yn colli allan ar geisio creu a datblygu rhywbeth fyddwch chi’n ei fwynhau’n arw.”