Siopiau Pop-Yp

Gall profi rhywbeth newydd ar gyfer eich busnes fod yn brofiad sydd weithiau’n codi ofn, ond gyda chefnogaeth ‘Gofod a Rennir’ gallwch gynnal prawf crefft mewn lleoliadau canol tref heb y costau drud.

Gallwch ddysgu llawer o ryngweithio â chwsmeriaid yn y byd go iawn, naill ai trwy astudio eu hymddygiad pan fyddant yn siopa gyda chi, neu trwy ofyn eu barn ar bynciau sy’n ymwneud â’ch busnes. Gallwch ddynodi problemau yn gynnar, addasu eich system brisio i ddisgwyliadau cwsmeriaid a gwneud newidiadau i’ch cynhyrchion yn seiliedig ar adborth a cheisiadau cwsmeriaid.

Beth yw prawf crefft?

Prawf Crefft yw’r broses o brofi’ch busnes yn y byd go iawn. I lawer, mae hyn yn golygu defnyddio cyfleoedd manwerthu tymor byr, fel siopau pop-up neu farchnadoedd lleol, i weld sut y bydd cynnyrch neu wasanaeth yn dod yn ei flaen.

Mae’n berffaith ar gyfer pobl sydd yng nghamau cynnar busnes newydd neu sydd am ehangu, gan y gallant brofi’r farchnad yn ddiogel heb ymrwymo i gontractau manwerthu hirdymor, sydd yn aml yn gofyn am symiau mawr o arian ymlaen llaw.

Mae hefyd yn golygu y gallwch chi:

Yn chwilio am rywbeth arall?

Rwy’n chwilio am
Help gyda chyllid
I’m looking for
Cyngor busnes

Y newyddion diweddaraf

Business in Focus yn cryfhau ei fwrdd anweithredol trwy benodi saith aelod newydd

Mae Business in Focus wedi penodi saith aelod newydd ar ei fwrdd anweithredol er mwyn helpu i ysgogi ei gynllun pum mlynedd ar gyfer datgloi potensial entrepreneuraidd y genedl. Mae’r penodiadau newydd yn cynnwys Anthony Couzens, cyfarwyddwr cydberthnasau yn HSBC – Bancio Corfforaethol; Bernie Davies, entrepreneur, siaradwr TEDx  a hyrwyddwr amrywiaeth; Pete Burnap, Athro gwyddorau […]

Mae’r Hwb Menter yn dychwelyd i danio twf mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin

Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd yr Hwb yn ailagor ei ddrysau er mwyn parhau â’i genhadaeth – sef meithrin llwyddiant entrepreneuraidd yn y gymuned leol.

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad