Cyngor Busnes

Mae Business in Focus yma i’ch helpu i gychwyn a thyfu eich Busnes yng Nghymru. Fe wnawn ni hyn trwy amryw raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sy’n diwallu bob math o anghenion.

P’un a ydych wrthi’n hel syniadau ar gyfer menter busnes newydd, neu’n rhoi eich bryd ar dyfu busnes sydd wedi hen ymsefydlu, mae gennym y cyngor yr ydych ei angen!

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru’n darparu cyngor diduedd, sydd wedi’i ariannu’n llawn, ar gyfer unrhyw un sy’n cychwyn, yn rhedeg neu’n tyfu busnes yng Nghymru.

P’un a ydych newydd gychwyn, neu’n rhoi eich bryd ar dyfu ac eisiau cymorth arbenigol, mae ein cynghorwyr profiadol a gwybodus yma i helpu.

Hybiau Menter Ffocws

Mae ein Hybiau Menter Ffocws yn rhoi’r cyfle i gyd-weithio â ni i greu cymuned o bobl fusnes sy’n rhannu’r un meddylfryd busnes ledled canolbarth a de Cymru. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo entrepreneuriaeth, i gynnig cymorth busnes a chreu profiad llewyrchus, sy’n canolbwyntio ar y gymuned i egin fusnesau ac entrepreneuriaid ar gam cyntaf y gwaith o sefydlu busnes.

Menter Blaenau Gwent

Oes gennych chi ddiddordeb mewn troi eich hobi, neu rywbeth yr ydych yn frwdfrydig amdano, yn fenter newydd?

Os ydych dros 25, wedi bod yn ddi-waith ers tro, ac yn wynebu rhwystrau sylweddol o safbwynt cychwyn eich busnes eich hun, yna hon yw’r rhaglen berffaith i chi.

Syniadau Mawr Cymru

Cymorth i bobl ifanc yng Nghymru a chanddynt syniad busnes.

Os ydych yn 16 – 25 oed, gallwn eich helpu i ddatblygu eich syniadau, a’ch helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at gychwyn a rhedeg eich busnes eich hun.

Busnes Cymdeithasol Cymru

Gwasanaethau ymgynghori arbenigol i unrhyw un sy’n rhedeg menter gymdeithasol neu’n meddwl am sefydlu un.

Dyfodol Ffocws

Mae Dyfodol Ffocws yma i’ch helpu chi i fagu’r sgiliau a’r hyder i gael swydd neu feddwl am ddod yn hunangyflogedig.

Bydd ein tîm Dyfodol Ffocws yn gweithio gyda chi, yn wyneb yn wyneb ac ar-lein, a’ch cefnogi chi wrth i chi fagu hyder, meithrin cysylltiadau gwell a newid llwybr eich dyfodol.

Yn chwilio am ddigwyddiadau a chyfleoedd i rwydweithio?

Y newyddion diweddaraf

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad

Menter Gymdeithasol yn Ennill Achrediad Cyber Essentials Plus

Mae prif sefydliad cymorth busnes Cymru wedi ennill achrediad y Cyber Essentials Plus, cynllun a gefnogir gan y diwydiant, i helpu i amddiffyn busnesau rhag bygythiadau cyffredin ar-lein.

Hybiau Menter i gau ar ôl pedair blynedd

Ar ôl pedair blynedd lwyddiannus iawn yn cefnogi busnesau newydd yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd, mae’n destun tristwch i ni gyhoeddi ein bod yn oedi gweithrediadau yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Hwb Menter Ffocws y Drenewydd.