Benthyciadau Dechrau Busnes

Mae dechrau busnes newydd yn heriol, yn enwedig pan mae angen codi arian arnoch chi. Mae benthyciadau dechrau busnes ar gael i bobl sy’n awyddus i ddechrau busnes yng Nghymru neu i fusnesau dan 3 blwydd oed sydd angen ychydig o fuddsoddiad ariannol wrth i’r busnes ddatblygu.

Beth yw Benthyciad Dechrau Busnes?

  • Mae Benthyciadau Dechrau Busnes, a weinyddir gan Fanc Busnes Prydain yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth, yn darparu llog isel, benthyciadau ad-daladwy a chymorth busnes am ddim
  • Mae’n fenthyciad personol at ddefnydd busnes
  • Ar gael ar gyfer busnesau o’r lansiad hyd at 36 mis o fasnachu
  • Ar gael ar gyfer unigolion dros 18 oed yn unig
  • Y benthyciad cyfartalog a fenthycir yw £7,200

Gweld faint y byddai benthyciad busnes yn ei gostio i chi

Borrow
£
am
12
Mis
24
Mis
36
Mis
48
Mis
60
Mis
Dros 48 Mis
Y Cyfanswm sy’n Ad-daladwy: £14372.84
Ad-daliad Misol: £299.43
APR Cynrychiadol: 6%

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn fenthyciad personol at ddibenion busnes ar gyfer cyfnod o 1 i 5 mlynedd, ar gyfradd sefydlog o 6% y flwyddyn. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ar adeg ymgeisio. Bydd gwiriad credyd yn cael ei gwblhau.

Gall Benthyciadau Dechrau Busnes gynnig y canlynol ar eich cyfer:

  • Benthyciadau heb eu gwarantu rhwng £500-£25,000
  • Cyfradd llog sefydlog, 6% ar hyn o bryd
  • Cyfnod ad-dalu o 1 i 5 mlynedd
  • Mentora RHAD AC AM DDIM ar gyfer blwyddyn gyntaf y benthyciad
  • Mynediad at gynigion busnes unigryw

Yn chwilio am rywbeth penodol?

Rwy’n chwilio am
Gofod Busnes
Rwy’n chwilio am
Cyngor Busnes