Gofod a Rennir

Mae gennym amrywiaeth o safleoedd busnes amlddefnydd yng Nghaerfyrddin, y Drenewydd a Hwlffordd y gellir eu harchebu ar gyfer rhannu mannau gweithio, cynnal cyfarfodydd a phrofi syniad busnes, ar sail tymor byr neu hirdymor.

Ac os ydych yn meddwl am gychwyn eich busnes eich hun, maent yn lleoedd gwych i gael cyngor a chefnogaeth, trwy sesiynau ar gychwyn busnes, gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio.

Ein Gofod a Rennir

Rhannu Desgiau

Os ydych wedi diflasu’n gweithio o fwrdd eich cegin, yna bydd y lleoedd sydd gennym ar gyfer rhannu mannau gwaith yn eich siwtio i’r dim.

Mae gennym amrywiaeth o ddesgiau a chyfleusterau sydd ar gael o 9yb i 4.30yp, y gellir eu harchebu am ddim ond diwrnod, wythnos neu am gyfnod hirach hyd yn oed!

Mae ein system archebu ar-lein yn hawdd i’w defnyddio ac ar gael i unrhyw un.

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae gennym amrywiaeth o fannau cyfarfod preifat os hoffech fod gyda’ch tîm neu gleientiaid mewn un lle.

Ond mae gennym gyfleusterau ar gyfer cynnal cyfarfodydd ar-lein hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys WiFi cyflym iawn, sgriniau HD, a llawer o blygiau ar gyfer eich gliniaduron a’ch offer!

Ceir cyflenwad diderfyn o de a choffi yn ein mannau cyfarfod, a gallwch ddefnyddio’r amryw fannau sydd ar gael gennym i gynnal sesiynau grŵp hefyd.

Gofod Prawf Crefft

Felly rydych wedi rhoi amser yn arbennig i ddatblygu eich cynnyrch ac mae’r busnes yn edrych yn wych ar bapur, ond nawr mae angen i chi wybod pwy sydd fwyaf tebygol o brynu eich cynnyrch a dyna beth yw pwrpas y Gofod a Rennir. Mae gofod ar gyfer siopau pop-yp ar gael ym mhob lleoliad i’ch galluogi i wneud y gwaith ymchwil angenrheidiol a fydd o gymorth i chi ddeall eich marchnad, eich sefyllfa o ran pris ac ennill adborth ar eich cynnyrch.

Gwasanaethau o fewn Gofod a Rennir

Cymorth i Gychwyn Busnes

Ynghyd â’r amryw gyfleoedd a gynigir gan Ofod a Rennir, gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth cymorth i fusnesau, sy’n rhad ac am ddim, trwy dimau’r Hybiau Menter Ffocws, neu Gynghorydd Busnes ar y safle. Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfle ardderchog i gael barn am syniad busnes newydd, neu i fynd i’r afael â’r hyn yr ydych ei angen i roi cychwyn arni.

Cyngor Busnes

Nid dim ond rhoi cyngor i fusnesau sy’n cychwyn fyddem ni, ond i fusnesau sefydledig hefyd!

Mae ein Gofod a Rennir yn berffaith ar gyfer trefnu cyfarfod gyda’n cynghorwyr busnes arbenigol.

Gallant roi cyngor a chymorth i chi ynghylch:

• Datblygu a thyfu eich busnes ar raddfa fwy
• Datblygu cynhyrchion neu wasanaeth
• Ehangu i ranbarthau a marchnadoedd newydd
• Cael cyllid i dyfu eich busnes

Ydych chi’n chwilio am safle ar gyfer swyddfa?

Cymrwch olwg ar eiddo arall ledled Cymru

Y newyddion diweddaraf

Business in Focus yn cryfhau ei fwrdd anweithredol trwy benodi saith aelod newydd

Mae Business in Focus wedi penodi saith aelod newydd ar ei fwrdd anweithredol er mwyn helpu i ysgogi ei gynllun pum mlynedd ar gyfer datgloi potensial entrepreneuraidd y genedl. Mae’r penodiadau newydd yn cynnwys Anthony Couzens, cyfarwyddwr cydberthnasau yn HSBC – Bancio Corfforaethol; Bernie Davies, entrepreneur, siaradwr TEDx  a hyrwyddwr amrywiaeth; Pete Burnap, Athro gwyddorau […]

Mae’r Hwb Menter yn dychwelyd i danio twf mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin

Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd yr Hwb yn ailagor ei ddrysau er mwyn parhau â’i genhadaeth – sef meithrin llwyddiant entrepreneuraidd yn y gymuned leol.

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad