Swyddfa Rhithiol

Yn chwilio am fodd fforddiadwy o ddatblygu eich busnes ar raddfa fwy?

Mae ein gwasanaethau swyddfa rhithiol yn darparu cyfeiriad busnes proffesiynol ar eich cyfer, ynghyd â mynediad i ystafelloedd cyfarfod ar y safle, heb y gost o gael swyddfa ffisegol.

Mae hyn yn caniatáu i chi ddatblygu eich busnes ar raddfa fwy, mewn modd fforddiadwy, gan ddod yn fwy gweladwy i ddarpar gleientiaid hefyd.

Beth sydd ar gael?

  • Cyfeiriad busnes
  • Blwch post personol
  • Ystafelloedd cyfarfod
  • WiFi am ddim ar y safle
  • Cytundebau hyblyg

Manteision swyddfa rithiol      

Mae ein pecynnau swyddfa ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr llawrydd, hunangyflogedig a chontractwyr sy’n chwilio am ffordd fodern o weithio’n hyblyg ac ymarferol.

Mae swyddfa rithiol yn caniatáu i chi gael cyfeiriad busnes proffesiynol, heb orfod mynd trwy’r drafferth o orfod rhentu swyddfa neu adeilad, ynghyd â thalu’r ffioedd sy’n gysylltiedig â hynny.

Mae ein gwasanaethau swyddfa rhithiol yn cynnig cyfraddau a chytundebau hyblyg.

Gallwch hefyd gasglu eich post, neu drefnu i’w anfon ymlaen i gyfeiriad arall. Neu gallwch logi ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau pan fyddwch angen creu argraff dda ar gleientiaid.

Cysylltwch â ni heddiw os yw cael swyddfa rithiol yn gwneud synnwyr i chi a’ch busnes.

Cyfeiriad Busnes

Efallai nad ydych bob amser eisiau defnyddio cyfeiriad eich cartref ar gyfer gohebiaeth sy’n ymwneud â’ch busnes.

Gall cyfeiriad busnes proffesiynol gyda Busnes Mewn Ffocws roi delwedd broffesiynol i chi, heb y ffioedd drud sy’n gysylltiedig â rhentu adeilad ffisegol.

Blychau Post Personol

Nid oes unrhyw ddiben cael cyfeiriad busnes proffesiynol os nad ydych yn gallu agor eich post!

Er ein bod yn darparu gwasanaethau ar gyfer anfon post ymlaen, mae’n well gan rai pobl yr hyblygrwydd a’r annibyniaeth a geir o gael blwch post personol.

Mae gennym gyfraddau a phecynnau hyblyg sy’n addas ar gyfer anghenion pob busnes. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae gennym amrywiaeth o fannau cyfarfod preifat os hoffech fod gyda’ch tîm neu gleientiaid mewn un lle.

Ond mae gennym gyfleusterau ar gyfer cynnal cyfarfodydd ar-lein hefyd.

Mae’r rhain yn cynnwys WiFi cyflym iawn, sgriniau HD, a llawer o blygiau ar gyfer eich gliniaduron a’ch offer!

Yn chwilio am ragor o wybodaeth?

Yn chwilio am rywbeth penodol?

Rwy’n chwilio am
Help gyda chyllid
Rwy’n chwilio am
Cyngor busnes

Y newyddion diweddaraf

Business in Focus yn cryfhau ei fwrdd anweithredol trwy benodi saith aelod newydd

Mae Business in Focus wedi penodi saith aelod newydd ar ei fwrdd anweithredol er mwyn helpu i ysgogi ei gynllun pum mlynedd ar gyfer datgloi potensial entrepreneuraidd y genedl. Mae’r penodiadau newydd yn cynnwys Anthony Couzens, cyfarwyddwr cydberthnasau yn HSBC – Bancio Corfforaethol; Bernie Davies, entrepreneur, siaradwr TEDx  a hyrwyddwr amrywiaeth; Pete Burnap, Athro gwyddorau […]

Mae’r Hwb Menter yn dychwelyd i danio twf mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin

Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd yr Hwb yn ailagor ei ddrysau er mwyn parhau â’i genhadaeth – sef meithrin llwyddiant entrepreneuraidd yn y gymuned leol.

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad