Ein Gwasanaethau

Mae Busnes Mewn Ffocws yma i’ch helpu i gychwyn a thyfu eich busnes.

Darparwn amrywiaeth o wasanaethau o ansawdd uchel i fusnesau yng Nghymru, sy’n amrywio o lety hyblyg, i safleoedd masnachu, i hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio.

P’un a ydych ond wrthi’n hel syniadau ar gyfer sefydlu menter newydd, neu’n rhoi eich bryd ar ddatblygu busnes sefydledig ar raddfa fwy, mae gennym y cymorth yr ydych ei angen.

Beth Allwn ni ei Gynnig?

  • Cyngor busnes arbenigol a hyfforddiant i ddatblygu sgiliau.
  • Safleoedd busnes hyblyg, ar gyfer rhannu mannau gwaith, cynnal cyfarfodydd ac ar gyfer manwerthu.
  • Digwyddiadau rhanbarthol, rhwydweithio a hyfforddiant, sy’n ymwneud â thestunau amrywiol.
  • Gwasanaeth ymgynghori masnachol, sy’n amrywio o gyfleu byrdwn eich busnes a gwerthu, i faterion cyfreithiol, ac sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol.
  • Swyddfeydd rhithiol a chanddynt gyfeiriad busnes, blwch post a chyfleuster i anfon post ymlaen.
  • A mwy

Cyngor Busnes

Mae gennym ystod o wasanaethau cyngor busnes y gellir eu haddasu i’ch anghenion, sy’n amrywio o gymorth cychwynnol i berchnogion busnesau newydd, i gyngor ynghylch sut i dyfu a datblygu ar raddfa fwy ar gyfer entrepreneuriaid sydd wedi hen ymsefydlu.

Gellir cael mynediad i’n cyngor busnes, sy’n cael ei addasu’n arbennig ar eich cyfer, dros y ffôn neu’n bersonol yn ein hybiau rhanbarthol a’n gwasanaethau a leolir ledled Cymru.

Neu fe allwch gael cyngor a hyfforddiant trwy gyfrwng ein calendr digwyddiadau eang, sy’n llawn o sesiynau defnyddiol o ran cyfleu byrdwn eich busnes, marchnata, rhwydweithio a llawer mwy!

Syniadau Mawr Cymru

Cefnogaeth i entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru.

Mae’r rhaglen hon yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau ac i gymryd eu camau cyntaf tuag at gychwyn a rhedeg eu busnes eu hunain.

Yn chwilio am rywbeth penodol?

Rwy’n chwilio am
Help gyda chyllid
Rwy’n chwilio am
rhannu mannau gwaith

Y newyddion diweddaraf

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad

Menter Gymdeithasol yn Ennill Achrediad Cyber Essentials Plus

Mae prif sefydliad cymorth busnes Cymru wedi ennill achrediad y Cyber Essentials Plus, cynllun a gefnogir gan y diwydiant, i helpu i amddiffyn busnesau rhag bygythiadau cyffredin ar-lein.

Hybiau Menter i gau ar ôl pedair blynedd

Ar ôl pedair blynedd lwyddiannus iawn yn cefnogi busnesau newydd yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd, mae’n destun tristwch i ni gyhoeddi ein bod yn oedi gweithrediadau yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Hwb Menter Ffocws y Drenewydd.