Cyd-weithio

Ydych chi’n meddwl am gymryd y cam nesaf yn eich busnes ac eisiau symud i safle swyddfa heb gontract hir? Gallai’r lleoedd sydd ar gael gennym i rannu mannau gwaith fod yr opsiwn perffaith i chi.

Mae gennym amrywiaeth o ddesgiau a chyfleusterau sydd ar gael o 9yb i 4.30yp, a gellir eu harchebu am ddiwrnod, wythnos, neu am gyfnod hirach hyd yn oed!

Beth yw rhannu mannau gwaith?

Mae rhannu mannau gwaith yn fodd gwych a hyblyg o weithio, ac mae’n ateb delfrydol yn lle gweithio o fwrdd eich cegin neu eich ystafell wely sbâr. Mae o hefyd yn berffaith i fusnesau sydd eisiau cylchdroi desgiau staff mewn swyddfeydd llai.

P’un a ydych yn chwilio am un ddesg unwaith y mis, neu ychydig o ddesgiau ar gyfer eich tîm yn ôl trefn rota wythnosol, mae gennym safleoedd ledled Cymru, ynghyd â phecynnau addas ar gyfer eich anghenion chi.

Beth yw manteision rhannu mannau gweithio?

Mae rhannu mannau gweithio’n dod yn fwy a mwy poblogaidd, yn enwedig ers y pandemig, gyda mwy o gyflogwyr yn newid i gontractau sy’n caniatáu i weithwyr weithio o bell trwy’r amser, neu gontractau hybrid sy’n rhoi’r opsiwn iddynt weithio o adref.

Mae rhannu mannau gweithio’n wych ar gyfer:

Yn chwilio am rywbeth arall?

Rwy’n chwilio am
Safleoedd busnes
Rwy’n chwilio am
Cyngor Busnes

Y newyddion diweddaraf

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad

Menter Gymdeithasol yn Ennill Achrediad Cyber Essentials Plus

Mae prif sefydliad cymorth busnes Cymru wedi ennill achrediad y Cyber Essentials Plus, cynllun a gefnogir gan y diwydiant, i helpu i amddiffyn busnesau rhag bygythiadau cyffredin ar-lein.

Hybiau Menter i gau ar ôl pedair blynedd

Ar ôl pedair blynedd lwyddiannus iawn yn cefnogi busnesau newydd yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd, mae’n destun tristwch i ni gyhoeddi ein bod yn oedi gweithrediadau yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Hwb Menter Ffocws y Drenewydd.