Ymunwch â’n Tîm
Os ydych yn meddwl am ymuno â ni, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru, rydych yn y lle iawn. Yma, fe ddangoswn i chi pa mor bwysig yw’r diwylliant i’r sefydliad, ynghyd â’r buddion a’r rolau yr ydym eisiau eu llenwi.
Os ydych yn meddwl am ymuno â ni, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru, rydych yn y lle iawn. Yma, fe ddangoswn i chi pa mor bwysig yw’r diwylliant i’r sefydliad, ynghyd â’r buddion a’r rolau yr ydym eisiau eu llenwi.
Fel sefydliad sydd wedi ennill achrediad Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl, rydym yn buddsoddi yn ein pobl. Nid yn unig y mae’r polisïau perthnasol ar waith gennym, ond mae’r achrediad hwn yn golygu bod pawb – o’r Prif Swyddog Gweithredol, i lawr i lefel prentis, yn cymryd perchnogaeth dros eu gwireddu. Rydym yn gwrando ar ein pobl, rydym yn gwerthfawrogi ein pobl, oherwydd heb ein pobl, ni fydd yn bosib i ni wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud, sy’n gwneud gwahaniaeth i entrepreneuriaid a busnesau yng Nghymru.
Fe wnawn y gwahaniaeth hwn trwy gefnogi pobl i wireddu eu syniad, i fwrw ymlaen â’u cynllun busnes, i ganfod y cyllid iawn, a’u tywys trwy eu camau cychwynnol, gan edrych ar gyfleoedd i dyfu ledled Cymru.
Law yn llaw â’r gwerthoedd sy’n cymell ein sefydliad, cynigiwn fuddion ardderchog:
Ar ôl y cyfnod prawf
Mae Busnes Mewn Ffocws yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Byddwn yn hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth trwy sicrhau bod prosesau Busnes Cymru, o safbwynt contractau, yn cydymffurfio â’r gofynion ac yn gynhwysol bob amser. Darparwn unrhyw wybodaeth a hyfforddiant a fynnir i gyflawni hyn. Byddwn yn sicrhau ein bod gam ar y blaen o ran codi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant a chyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, o safbwynt materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, a sut i gyflenwi gwasanaeth sy’n cynnwys pob cleient. Rydym yn cyflenwi ac yn datblygu gwasanaeth cynhwysol sy’n cyd-fynd â gwerthoedd Busnes Mewn Ffocws a gofynion contractiol Llywodraeth Cymru.
Gan ein bod yn treulio cymaint o amser yn ein gwaith ag y byddem gyda’n teuluoedd, mae’n bwysig i ni eich bod yn hapus, yn cael tipyn o hwyl, ac yn cael rhywbeth i edrych ymlaen ato. Byddem yn trefnu amryw weithgareddau trwy gydol y flwyddyn, sy’n dod â ni i gyd at ein gilydd, sy’n rhoi cyfle i chi adael eich desg, cwrdd â chydweithwyr eraill y tu allan i’ch tîm, cael deall mwy am y bobl o fewn y sefydliad, gan weithiau wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol.
Ymhlith gweithgareddau rheolaidd y mae: