Busnes Cymru

Ein rhaglen flaenllaw i roi cymorth i fusnesau ar ran Llywodraeth Cymru.

Darparwn gymorth diduedd ac annibynnol i unrhyw un sy’n cychwyn, yn rhedeg neu’n tyfu busnes yng Nghymru.

Ein Gwasanaethau

  • Cyngor busnes arbenigol a hyfforddiant i ddatblygu sgiliau.
  • Darganfod cyllid a chadw cyfrifon.
  • Cynllunio busnes a rhagolygon ariannol.
  • Strwythur cyfreithiol a dod o hyd i eiddo.
  • Marchnata, brandio a ymchwil i’r farchnad.
  • Hurio a chyflogi staff a chyngor ym maes Adnoddau Dynol.
  • Sgiliau, hyfforddiant a mentora.
  • A mwy!

Cymorth i Gychwyn Busnes

Os ydych yn meddwl am fwrw ymlaen â’ch syniadau, yna rydych yn y lle iawn! 

Mae gennym dîm o arbenigwyr mewnol sy’n arbenigo mewn rhoi cymorth i fentrau busnes newydd, o’r cyfnod hel syniadau cychwynnol, hyd at y broses o ddiogelu cyllid a’u datblygu ar raddfa fwy.

Gellir addasu ein cyngor ar gyfer eich diwydiant, eich oedran a’ch lefel o wybodaeth o ran busnes, naill ai trwy ein cynghorwyr mewnol yn Busnes Cymru, neu un o’n gwasanaethau cymorth eraill.

Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys Syniadau Mawr Cymru, ein gwasanaeth busnes i bobl ifanc, a Menter Blaenau Gwent, sy’n arbenigo mewn rhoi cymorth i bobl ddi-waith yn ardal Blaenau Gwent fynd yn hunangyflogedig.

Felly cysylltwch â ni heddiw i wireddu eich breuddwyd o ran busnes!

Rhagor o Wasanaethau gan Busnes Cymru

Rhwydweithio a Digwyddiadau

Rydym yn cynnal cyrsiau a gweminarau rheolaidd wedi’u hariannu’n llawn i’ch helpu chi i wella eich sgiliau a datblygu eich hyder.

Mae’r digwyddiadau’n rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

  • Sefydlu a rhedeg busnes.
  • Rheoli eich cyfrifon a threth.
  • Marchnata ac ymchwil i’r farchnad.
  • Tendro.
  • Recriwtio ac AD.
  • Syniadau Mawr Cymru

    Support for young entrepreneurs in Wales.

    This programmes helps young people develop their ideas and take their first step towards starting and running their own business.

    Yn chwilio am rywbeth penodol?

    Rwy’n chwilio am
    Gofod Busnes
    Rwy’n chwilio am
    Partneriaethau

    Y newyddion diweddaraf

    Business in Focus yn cryfhau ei fwrdd anweithredol trwy benodi saith aelod newydd

    Mae Business in Focus wedi penodi saith aelod newydd ar ei fwrdd anweithredol er mwyn helpu i ysgogi ei gynllun pum mlynedd ar gyfer datgloi potensial entrepreneuraidd y genedl. Mae’r penodiadau newydd yn cynnwys Anthony Couzens, cyfarwyddwr cydberthnasau yn HSBC – Bancio Corfforaethol; Bernie Davies, entrepreneur, siaradwr TEDx  a hyrwyddwr amrywiaeth; Pete Burnap, Athro gwyddorau […]

    Mae’r Hwb Menter yn dychwelyd i danio twf mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin

    Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd yr Hwb yn ailagor ei ddrysau er mwyn parhau â’i genhadaeth – sef meithrin llwyddiant entrepreneuraidd yn y gymuned leol.

    Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

    O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad