Amdanom Ni

Mae Business in Focus yn fenter gymdeithasol sy’n ymrwymedig i gefnogi busnesau newydd a sefydledig.

Buom yn helpu pobl i gychwyn a thyfu eu busnesau eu hunain ers dros dair degawd, trwy ddarparu cyngor busnes arbenigol wedi’i addasu i’w hanghenion, ynghyd â mynediad i gyllid, cymorth o safbwynt gofynion eiddo a hyfforddiant i ddatblygu sgiliau.

Cyflenwir rhai o’n gwasanaethau ar ran cyrff cyhoeddus a phreifat, ac mae gennym hanes rhagorol o weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Llywodraeth

Mae Business in Focus Limited yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi twf menter yng Nghymru. Rydym yn gwmni cyfyngedig drwy warant, sy’n cael ei lywodraethu gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr.

Rydym yn gwmni wedi cyfyngu gan warant ac wedi llywodraethu gan Fwrdd Cyfarwyddwyr. Er mwyn cyrraedd ein nod, rydym yn gydweithio gyda ystod o hapddalwyr. Mae ein Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cadw golwg ar ein strategaeth a gwaith er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn ateb gofynion ein hamgylchfyd rheoli, ein egwyddiorion ac ymarfer busnes da.

Mae’r Bwrdd wedi gwneud lan o Gyfarwyddwyr Anweithredol sydd wedi eu casglu o ystod eang o sectorau busnes a gwaith gwirfoleddol gyda’n cymdeithas (gyda eithriad i’n Prif-Weithredwr).

Ein Strategaeth

Erbyn hyn, mae Business in Focus wedi bod ar waith ers mwy na 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi esblygu ac addasu’n barhaus ar sail yr amgylchedd cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a digidol y gweithredwn oddi mewn iddo.

O fan cychwyn digon di-nod, rydym wedi tyfu’n un o fentrau cymdeithasol mwyaf blaenllaw a dibynadwy Cymru, gan gynnig cymorth busnes, lle a chynnyrch ariannol o’r radd flaenaf i filoedd o gleientiaid. Mae un diben syml a phwysig wrth galon a chraidd ein rheswm dros fodoli – sef rhyddhau potensial entrepreneuraidd a chyfoethogi bywydau.

Ein His-bwyllgorau

Mae gennym hefyd dri is-bwyllgor ffurfiol sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ddarparu argymhellion i’r bwrdd.

Pwyllgor Gwaith Statego: sy’n archwylio ein strategaeth gyffredinol a phenderfyniadau busnes allweddol

Pwyllgor Gweithio Archwyli: sy’n archwylio ein trefniant ariannol ac archwyliad statudol.

Pwyllgor Gweithio Tâl: sy’n adolygu a chynghori ar ein polisïau ac ymarferion gwobrwyo a thâlu.

Y newyddion diweddaraf

Business in Focus yn cryfhau ei fwrdd anweithredol trwy benodi saith aelod newydd

Mae Business in Focus wedi penodi saith aelod newydd ar ei fwrdd anweithredol er mwyn helpu i ysgogi ei gynllun pum mlynedd ar gyfer datgloi potensial entrepreneuraidd y genedl. Mae’r penodiadau newydd yn cynnwys Anthony Couzens, cyfarwyddwr cydberthnasau yn HSBC – Bancio Corfforaethol; Bernie Davies, entrepreneur, siaradwr TEDx  a hyrwyddwr amrywiaeth; Pete Burnap, Athro gwyddorau […]

Mae’r Hwb Menter yn dychwelyd i danio twf mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin

Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd yr Hwb yn ailagor ei ddrysau er mwyn parhau â’i genhadaeth – sef meithrin llwyddiant entrepreneuraidd yn y gymuned leol.

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad