Partneriaethau

Rydym bob amser yn agored i ddatblygu partneriaethau newydd â sefydliadau sy’n gallu defnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd.

Mae partneriaeth â Busnes Mewn Ffocws yn rhoi mynediad i chi i’n harbenigwyr, ein cyfleusterau, a’r profiad helaeth a enillwyd gennym dros gyfnod o 30 mlynedd yn y sector busnesau bach.

Rydym yn rhagori yn y meysydd a ganlyn

  • Cyngor i fusnesau bach
  • Rheoli eiddo
  • Gweinyddu grantiau
  • Gwasanaeth Ymgynghori ym maes Adnoddau Dynol
  • A mwy

Beth gewch chi o bartneriaeth?        

Bydd partneriaeth â Busnes Mewn Ffocws yn sicrhau y caiff eich prosiect ei gyflawni o fewn ei amserlen a’i gyllideb, ac yn ôl y safon uchaf bosib.

Pan fyddwch yn sefydlu partneriaeth gyda ni, rydym yn hoff o feddwl eich bod yn ymuno â theulu Busnes Mewn Ffocws, a dyna pam rydym yn hapus i rannu ein cronfa fewnol helaeth o staff proffesiynol, medrus a phrofiadol.

Mae’r rhain yn amrywio o reolwyr eiddo a rhai sy’n negodi contractau, i gynghorwyr ariannol a gweithwyr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol.

Ydych chi’n awdurdod lleol neu’n gorff o fewn y llywodraeth?

Os felly, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych!        

Sefydlwyd partneriaethau gennym yn flaenorol, gyda sawl awdurdod lleol a chyrff o fewn y llywodraeth, i gyflenwi gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus, ynghyd â chymorth i fusnesau ledled Cymru.

Bu’r rhain yn llwyddiannus oherwydd ein dull hyblyg o weithio, cyflymder y cymorth a ddarperir gennym, ynghyd â’n cronfa fewnol o arbenigwyr ac adnoddau.

Felly cysylltwch â ni heddiw os oes arnoch angen darpariaeth o ansawdd uchel, ynghyd â phartneriaeth y gallwch ddibynnu arni.

Yn chwilio am rywbeth penodol?

Rwy’n chwilio am
Gofod busnes
Rwy’n chwilio am
Ystafelloedd Cyfarfod

Y newyddion diweddaraf

Chwifio baner Banc Busnes Prydain yng Nghymru

O brofiad Matt fel Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, dysgodd fod menywod yn cael eu heffeithio’n sylweddol fwy andwyol gan y newid yn yr hinsawdd a materion i lawr y gadwyn gyflenwi. Roedd y sylweddoliad hwn, ynghyd â chefndir Joby mewn Dylunio Graffeg a’u hangerdd gydol oes ar y cyd am borthladdoedd awyr agored, yn sylfaen i syniad busnes ac o hynny, crëwyd Dryad

Menter Gymdeithasol yn Ennill Achrediad Cyber Essentials Plus

Mae prif sefydliad cymorth busnes Cymru wedi ennill achrediad y Cyber Essentials Plus, cynllun a gefnogir gan y diwydiant, i helpu i amddiffyn busnesau rhag bygythiadau cyffredin ar-lein.

Hybiau Menter i gau ar ôl pedair blynedd

Ar ôl pedair blynedd lwyddiannus iawn yn cefnogi busnesau newydd yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd, mae’n destun tristwch i ni gyhoeddi ein bod yn oedi gweithrediadau yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Hwb Menter Ffocws y Drenewydd.