Fel cyd-sylfaenydd a chyn Brif Weithredwr yr unig gwmni FTSE 100 ar waith yng Nghymru, mae gan David lawer iawn o brofiad a mewnwelediad ar arloesedd busnes, ac mae’n edrych ymlaen at ei drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wrth i Business in Focus ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall o roi cymorth busnes arbenigol.
Mae ei brofiad, drwy fod yn rhan o un o fusnesau newydd mwyaf llwyddiannus Cymru, yn dod â dealltwriaeth unigryw a manwl o’r ecosystem busnes, twf y farchnad a dyfodol entrepreneuriaeth yng Nghymru.