Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch

08/03/23

(ailbostiwyd o Business News Wales)

Er bod y prif ffocws wrth gwrs ar ferched ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yma yn Business News Wales, roeddem ni am dyrchu ychydig yn ddyfnach a chlywed o safbwynt dynion, o ystyried arwyddocâd cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer heddiw, yfory a’r dyfodol, fel nad oes rhaid i’r genhedlaeth nesaf wynebu rhai o’r heriau a rhwystrau andwyol mae cymaint ohonom wedi’u hwynebu eisoes yn anffodus.

Mae Phil Jones, Prif Weithredwr yn Business in Focus yn myfyrio ar ei fywyd personol a’i yrfa cyfareddol, sut y gallai pethau fod wedi bod yn well pe byddai mwy o gydraddoldeb yn amlwg yn y Lluoedd Arfog yn y gorffennol a pham ei fod yn hynod o falch o fod mewn rôl arweinyddiaeth mewn cwmni ag enw da sy’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch.

“Treuliais 26 mlynedd gyntaf fy mywyd proffesiynol yn gwasanaethu yn y Fyddin ar ymfyddiniadau gweithredol ledled y byd. Roeddwn i’n lwcus iawn. Fel roedd yr hysbyseb yn ei awgrymu, ymunais â’r Fyddin a darganfod y byd ehangach. Pan ymunais yn ôl yn 1986, roedd y cyfleoedd i weld y bydd, datblygu eich gyrfa a dringo’r rhengoedd yno i bawb ar sail gyfartal a theg.

Roedd yn feritrocratiaeth gwirioneddol lle gallai pawb weithio’n galed i wireddu eu llawn botensial. Roedd hynny i gyd yn wir, ac eithrio un manylyn bach, bach. Os oeddech chi’n ferch, nid oedd rhai o’r cyfleoedd hynny yn agored i chi o gwbl. Diolch byth, mae’r Lluoedd Arfog heddiw yn wahanol iawn. Gall merched gyfrif am hyd at 12% o’r holl bersonél a gallant wneud cais am dros 90% o rolau, gan gynnwys y Lluoedd Arbennig. Rwy’n gwneud y sylw hwn oherwydd fy mod i’n gwybod y byddai’r Lluoedd Arfog y gwnes i wasanaethu ynddyn nhw wedi bod yn llawer gwell, byddwn i wedi dysgu gymaint mwy a (dydw i ddim yn meindio ychwanegu hwn) byddai wedi bod yn gymaint mwy o hwyl pe byddai cydraddoldeb a thegwch gwirioneddol ar gyfer dynion a merched.

Symud ymlaen i 2023, rydw i yn Business in Focus, un o fentrau cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru, yn gweithio’n galed fel y gall y miloedd o bobl rydyn ni’n eu cefnogi bob blwyddyn wireddu eu potensial. Mae un gwahaniaeth bach, bach, fodd bynnag, sy’n gwneud fy mywyd gwaith gymaint yn fwy boddhaol nag unrhyw adeg arall yn ystod fy ngyrfa, merched. Pam fod Business in Focus yn llwyddiannus? Oherwydd mae 73% o’r bobl sy’n gweithio i ni yn ferched, oherwydd mae 73% o’n grŵp arwain yn ferched, oherwydd fel gymaint o fusnesau llwyddiannus, rydym ni’n croesawu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch. Dyna pam y byddwn ni’n ymfalchïo’n fawr eleni wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.”