Gallwch bellach gynnal cyfarfodydd mewn steil yn y Gofod a Rennir, Hwlffordd!
22/08/22
22/08/22
Gofod a Rennir Hwlffordd yw’r lle delfrydol yn Sir Benfro i fodloni eich holl anghenion busnes, gyda dwy ystafell gyfarfod newydd sbon i ateb y galw yn yr ardal.
Fel rhan o’u nod i greu a chefnogi cymuned a rhwydwaith busnes cadarn yng ngorllewin Cymru, mae Gofod a Rennir Hwlffordd wedi lansio dwy ystafell gyfarfod newydd, am brisiau fforddiadwy iawn. Mae’r ystafelloedd eang bellach ar gael i’w harchebu, ac mae lle i 20 o fynychwyr yn yr ystafell gyfarfod fechan, a hyd at 35 yn yr ystafell gynadleddau. Mae pecynnau’n dechrau am £12 fesul awr, ac yn cynnwys mynediad cynhwysol i 1GB o Fand Eang Ffibr Cyflym Iawn, taflunydd a chamera cynhadledd, offer ysgrifennu a digonedd o de, coffi a dŵr.
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Siopa Riverside, mae Gofod a Rennir Hwlffordd yn cynnig lle i bobl gael mynediad at ystod o wasanaethau, fel cyfleusterau cydweithio a siopau pop-yp, gyda chyfle i fanteisio ar y gwasanaethau cymorth a chyngor busnes am ddim ar gyfer busnesau newydd a BBaChau ar draws Sir Benfro.
Dyma oedd gan Gareth Thomas, Cydlynydd Hwb ar gyfer y Gofod a Rennir Hwlffordd, i’w ddweud ynghylch y lansiad, “Ein nod yw creu rhwydwaith cymorth a chymuned busnes gadarn yng ngorllewin Cymru ar gyfer unigolion sy’n dymuno dechrau eu busnes eu hunain, tyfu ac arallgyfeirio, ac wrth wneud hynny, pleser gennym yw lansio dwy ystafell gyfarfod newydd yn y Gofod a Rennir, Hwlffordd, fis yma. Mae’r ddwy ystafell gyfarfod wedi’u cyfarparu â mwynderau modern, ac maent ar gael i’w llogi am bris rhesymol iawn.”
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud defnydd ohonynt, mae’r ystafelloedd cyfarfod eang, newydd sbon, bellach ar gael. Mae Gofod a Rennir Hwlffordd wedi’i leoli’n ganolog i nifer o fwynderau lleol. Mae digon o leoedd parcio fforddiadwy ar gael o fewn 5 munud i’r Hwb ac mae cysylltiadau trenau da, gyda’r orsaf drenau wedi’i lleoli taith gerdded fer o’r hwb. Gan ei fod yn agos at yr afon Cleddau, mae’n lle gwych i fynychwyr gymryd saib, pe bai angen.
Mae Gofod a Rennir Hwlffordd hefyd yn cynnig cymorth busnes un-i-un, gweithdai diddorol, cyfleoedd profi masnach a chyfleusterau cydweithio, sydd hefyd yn cynnwys mynediad at fand eang cyflym iawn, lluniaeth a chymuned yr Hwb.
Os ydych chi’n meddwl bod yr ystafelloedd cyfarfod eang, newydd sbon yn ddelfrydol i chi, gallwch ofyn am ragor o wybodaeth neu archebu un o’r ystafelloedd drwy ffonio Gofod a Rennir ar 01437 806170.
Ariennir Gofod a Rennir Hwlffordd gan Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, a weinyddir gan CGGC. Mae Business in Focus yn cyflwyno’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Benfro.