Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Roots

13/03/23

Yn nathliad yr wythnos hon o entrepreneuriaid Cymru, mae Business in Focus yn cyflwyno, Sami Gibson, mam sengl ac entrepreneur a wnaeth sefydlu ei busnes ei hun, Roots.

Yn Roots gallwch ddod o hyd i berlysiau a sbeisys ffres sy’n cael eu tyfu yn naturiol ac yn lleol yng Ngorllewin Cymru. Roedd Sami bob amser yn angerddol dros natur pan roedd yn tyfu i fyny, ac yn cofio casglu ffrwythau a mwyar gwyllt ar gyfer gwinoedd a phwdinau gyda’i mam-gu. A hithau’n deithiwr brwd, casglodd ddigonedd o wybodaeth am ffermio o’i theithiau i Ganada, Nicaragua, ac Ynysoedd Sili.

Yn benderfynol i adeiladu bywyd hunangynhaliol ac annibynnol, daeth Sami a’i hangerdd tuag at ffermio a natur ynghyd a phenderfynodd ddechrau ei thaith entrepreneuraidd a sefydlu ei busnes. Mae Roots yn tyfu perlysiau a sbeisys yn bennaf, ond mae hefyd yn cynhyrchu cyfuniadau megis uno cymysgedd perlysiau gyda llusi duon, a halen capan cornicyll, a saws pitsa ymysg pethau eraill.

Aeth Sami drwy nifer o heriau a rhoddodd y syniad o ddechrau ei busnes i’r neilltu, gan ei bod yn byw mewn ardal wledig ac nid oedd ganddi fynediad at liniadur na chysylltiad â’r we, pan aeth at Busnes Cymru.

Gyda chymorth cynghorydd busnes arbenigol a chefnogaeth un i un, creodd Sami gynllun busnes ac amcanestyniad llif arian ar gyfer ei busnes. Derbyniodd gyllid hefyd drwy’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes y defnyddiodd i brynu offer a deunyddiau marchnata.

“Ni fuaswn wedi gallu cyflawni dim o hyn heb Busnes Cymru, ac mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy. Mae gennyf fy ngwefan fy hun yn awr ac rwy’n masnachu yn rheolaidd mewn marchnadoedd. Mae’r prosiect hwn yn gwireddu breuddwyd, ac wrth i mi wylio’r perlysiau yn ffynnu, y fioamrywiaeth yn tyfu, a’r milltiroedd bwyd yn lleihau, rwy’n teimlo’n falch o fod yn gallu darparu cynnyrch fforddiadwy, iach sy’n mynd o’r cae i baced mewn mater o oriau heb unrhyw gemegyn yn rhan o’r broses.”

Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gall Business in Focus eich cefnogi chi. Yn Business in Focus, ein nod yw adnabod talent yma yng Nghymru a dathlu busnesau newydd Cymreig.