Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Lunch Locker
06/01/23
06/01/23
Yn y gyfres hon, rydym ni yn Business in Focus yn anelu at gydnabod talentau sydd i’w cael yma yng Nghymru a dathlu Busnesau Newydd Cymreig. Yr wythnos hon, rydym yn canolbwyntio ar ‘Lunch Locker’, sef syniad unigryw sydd wedi sicrhau patent. Y sylfaenwyr a’r cyfarwyddwyr yw Peter Webber, Mike McLaughlin a Chris Yapp.
Cafodd y syniad sydd wrth wraidd Lunch Locker ei greu yn wreiddiol yn y 1970au pan lwyddodd un o’r cyfarwyddwyr i greu bocs bwyd a oedd yn plygu. Yn 2022 sylweddolodd Mike Mclaughlin, un o gyfarwyddwyr Lunch Locker, y byddai modd ailwampio ac ailgynllunio’r bocs bwyd hwn trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, er mwyn creu Lunch Locker. Yn y bôn, mae Lunch Locker yn gyfuniad o hambyrddau seliedig sy’n gallu dal gwahanol gynhyrchion bwyd mewn system becynnu y gellir ei phlygu, gan alluogi bwytai a chynhyrchwyr bwyd i ddarparu ‘prydau cyflawn’. Gellir ailgylchu’r bocs yn llwyr a gall ddal bwydydd poeth neu oer, ynghyd â phecyn hylendid diogel o ran Covid a chyllyll a ffyrc ac ati, yn ogystal â phupur a halen.
Erbyn heddiw, mae Lunch Locker wedi llwyddo i gael patent, ond ni fu’r broses honno yn hawdd o gwbl. Ac yntau’n chwilio am gyngor busnes, clywodd Mike am yr Academi Busnesau Newydd a gâi ei chynnal gan Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a gofynnodd iddi am gymorth i amddiffyn y syniad arloesol. Gydag ychwaneg o help, cafodd Lunch Locker gymorth grant i gynnal archwiliad IP er mwyn helpu â’r broses batent.
Trwy gyfrwng yr Hwb Menter, treuliodd Lunch Locker ddiwrnod cyfan yn yr Academi Busnesau Newydd, gan elwa ar y rhwydwaith cymorth gwych a chael cyngor gwerthfawr i sicrhau bod eu cynllun busnes yn gadarn. Yn ôl Chris Yapp, un o gyfarwyddwyr Lunch Locker, llwyddodd yr Academi i hogi ei sgiliau, a chan mai Llywodraeth Cymru a oedd yn darparu’r rhaglen, roedd ganddo hyder llwyr ynddi.
Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gall Busines in Focus eich cynorthwyo.