Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Labode Interiors 

19/01/23

Yn y gyfres hon, mae Business in Focus yn dathlu’r hyn y mae entrepreneuriaid Cymru wedi’i gyflawni, a’u siwrnai tuag at lwyddiant.

Busnes rhagdrefnu cartrefi rhithwir yw Labode Interior E-Design sy’n helpu adeiladwyr a datblygwyr cartrefi i ddychmygu sut olwg fydd ar y tu mewn i’w cartrefi trwy ddefnyddio panoramas, rendradau a dyluniadau 3D.

Mae Yvonne Phillips, sylfaenydd Labode Interior E-design, wastad wedi cael ei hysbrydoli gan Gynllunio Mewnol ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn y maes. Graddiodd gyda Diploma o’r Sefydliad Cynllunio Mewnol yn dilyn Diploma Marchnata Digidol CAM a enillodd trwy gyfrwng y Sefydliad Marchnata Siartredig. Gyda’r cymwysterau hyn yn ei meddiant, roedd hi o’r farn mai dyna’r adeg ddelfrydol i lansio ei busnes ei hun.

Gwelodd Yvonne gyfle i ddechrau ei busnes ei hun pan gollodd ei swydd. Pan ddechreuodd Yvonne adeiladu Labode Interior E-Design, teimlai’n unig ac fel pe bai wedi’i llethu, oherwydd roedd hi wedi arfer gweithio mewn timau. Roedd hi’n awyddus i gael rhywfaint o gymorth ac adborth gan rywun, ond roedd yr holl help a gafodd yn deillio’n bennaf o fusnesau a oedd naill ai’n ceisio’i hychwanegu at eu rhestr bostio neu’n ceisio gwerthu eu gwasanaethau iddi.

Trodd Yvonne at Hwb Menter Ffocws y Drenewydd i gael cymorth a sylweddolodd fod yr Hwb yn lle gwych i gael cyngor busnes. Hefyd, helpodd yr Hwb i’w chysylltu â phobl o’r un meddylfryd – rhai a oedd, fel hithau, yn sefydlu eu busnesau eu hunain – ac fe wnaeth hyn ei helpu i rwydweithio gyda phobl. Cwblhaodd Yvonne nifer o gyrsiau a mynychodd lu o weithdai a drefnwyd gan yr Hwb. Bu’r rhain yn fuddiol iawn, gan ei helpu i ddeall y gwahanol rannau sy’n perthyn i’r broses cynllunio busnes.

Gyda chymorth busnes gan yr Hwb, a thrwy gydweithredu ag adeiladwyr a datblygwyr tai, lansiodd Yvonne ei busnes yn 2020. Mae hi’n defnyddio’r technolegau gwe a’r tueddiadau dylunio diweddaraf i sicrhau bod ei chleientiaid un cam ar y blaen ac mae hi’n parhau i gryfhau’r arlwy a gynigir i’w chleientiaid.

Ein nod yn Business in Focus yw rhoi cymorth i entrepreneuriaid i’w helpu nhw i gyflawni eu breuddwydion. Os oes gennych freuddwyd i ddechrau busnes, gall Business in Focus eich cefnogi chi.