Sut i wella eich sgôr credyd
17/10/22
17/10/22
Mae sgoriau credyd yn offer ariannol sy’n penderfynu a fyddwch chi’n cael benthyciadau, pa gyfraddau llog y byddwch chi’n eu talu, a llawer mwy. Erbyn heddiw mae’r sgoriau hyn wedi dod yn rhan hanfodol o’n bywydau ariannol, ac yn fetrig i fesur ein hiechyd ariannol.
Dyma 6 ffordd y gallwch wella eich sgôr credyd:
Mae gwella’ch sgôr credyd yn broses sy’n cymryd amser, ac yn anffodus ni fydd yn digwydd dros nos. Mae’n bosibl y bydd gan bob benthyciwr ffordd wahanol o wirio’ch sgôr credyd yn dibynnu ar eu meini prawf benthyca a’r wybodaeth y mae ganddynt fynediad ati.
Os ydych chi’n ystyried cychwyn busnes, mae’n werth nodi bod Benthyciad Cychwyn Busnes yn cynnig llog cyfradd sefydlog o 6.19% APR felly ni fydd eich llog yn newid yn seiliedig ar eich sgôr credyd. Fodd bynnag, wrth wneud cais am y benthyciad personol hwn at ddefnydd busnes, mae’n dda dangos bod gennych sgôr credyd iach.
Os oes angen cyngor neu arweiniad busnes arnoch ar sut y gallwch sicrhau bod gennych sgôr credyd iach cyn gwneud cais am Fenthyciad Cychwyn Busnes, cysylltwch â’r tîm heddiw drwy’r wefan