Dyfodol Ffocws yn dyfarnu gwerth £240,000 o gyllid i 180 o fusnesau yng Nghymru.
26/10/22
26/10/22
Yn ddiweddar, dyfarnodd Dyfodol Ffocws gwerth £240,000 o gyllid Nod Werdd i fusnesau newydd lleol a busnesau bach newydd sy’n dilyn arferion mwy gwyrdd o fewn eu busnesu.
O fewn prosiect peilot Dyfodol Ffocws, ceir cyfle i gydweithio â 12 awdurdod lleol ledled Cymru a darparu cymorth er mwyn i bobl leol oresgyn heriau, datblygu sgiliau entrepreneuraidd a magu’r hyder i ystyried hunangyflogaeth. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi busnesau annibynnol sydd wedi wynebu heriau yn ystod COVID-19. Mae menter Gwobr y Nod Werdd yn ceisio annog pobl i ‘feddwl yn wyrdd’ a helpu busnesau newydd, neu’r bobl hynny sydd eisiau dechrau busnes, i feddwl am eu hôl-troed carbon a’u heffaith amgylcheddol.
Ar y cyfan, derbyniodd 180 o fusnesau arian mewn cyfansymiau gwahanol; cafodd 12 busnes £5,000, cafodd 12 arall £2,000 a chafodd 156 o fusnesau £1,000.
Dyma restr o bawb a dderbyniodd £5,000:
Rhanbarth Dwyrain Cymru,
Rhanbarth Canolog Cymru,
Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Mae Business in Focus yn falch o gyflwyno Dyfodol Ffocws, prosiect sy’n ffurfio rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU. Datblygwyd y prosiect hwn i gefnogi pobl leol i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder er mwyn rhoi hwb i’w diddordebau entrepreneuraidd. Mae Dyfodol Ffocws yn darparu cymorth ac arweiniad i bobl sy’n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain, sy’n ceisio cymorth ariannol a darparu hyfforddiant ac arweiniad un i un.
Business in Focus yw’r gwasanaeth ymgynghori busnes arbenigol sy’n cyflwyno Dyfodol Ffocws.