Safleoedd busnes hyblyg, cyllid fforddiadwy, cyngor ac arweiniad; rydym yn darparu'r pecyn cyfan i sicrhau bod eich busnes yn llwyddo.
Cysylltwch â ni
Mae gennym amrywiaeth o swyddfeydd ac unedau diwydiannol ar gael ar draws de Cymru, sy'n berffaith os ydych eisiau symud eich busnes i'r lefel nesaf.
Mae pob busnes angen cymorth ariannol cryf. Gallwn roi cymorth i chi gael arian i ddechrau neu dyfu eich busnes.
Yn chwilio am gyngor ac arweiniad i ddechrau neu i dyfu busnes? Mae ein cynghorwyr arbenigol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a datrysiadau busnes o’r radd flaenaf.
Eich helpu chi i gychwyn eich taith at ddod yn fusnes llwyddiannus. Gallwn roi cymorth i chi gyda’ch ceisiadau Benthyciad Cychwyn Busnes ac rydym yn cynnig mentora AM DDIM yn ystod y 12 mis cyntaf o fasnachu.
Mae Busnes mwen Ffocws yn fenter gymdeithasol sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru i gychwyn a thyfu.
Rydym yn falch o ddarparu gwasanaeth blaenllaw Busnes Cymru Llywodraeth Cymru; gan ddarparu cyngor busnes un i un, hyfforddiant sgiliau busnes a gweithdai i fusnesau bach. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cefnogi Syniadau Mawr Cymru a'r Hwb Menter ar ran y Llywodraeth, gan gynnig pecyn cefnogi cyflawn i entrepreneuriaid yng Nghymru.
Gydag eiddo ledled Cymru, mae ein safleoedd busnes hyblyg yn cynnig amrywiaeth eang o swyddfeydd ac unedau diwydiannol i fusnesau bach. Mae gan ein holl denantiaid fynediad at gynghorwyr busnes profiadol, digwyddiadau arbennig a chyfleoedd rhwydweithio am ddim cost ychwanegol.
Ydych chi am ffurfio partneriaeth â sefydliad sydd â dros 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda busnes yng Nghymru?
Gellir cymhwyso ein profiad eang i amrywiaeth eang o brosiectau gan gynnwys gweinyddu grantiau, rheoli eiddo, rhaglenni cymorth busnes pwrpasol a llawer mwy.
Cliciwch y dolenni isod i edrych ar ein partneriaethau neu cysylltwch â ni i drafod cydweithio.
Mawrth 25, 2021
Mawrth 19, 2021
Mae'n bryd gwneud y newid hwnnw, cael eich busnes ar y trywydd iawn, a chyrraedd eich nodau?
Beth bynnag yw'r cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydyn ni yma i helpu...
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020