Dyfodol Ffocws

Mae Dyfodol Ffocws, a ddarparir yn Abertawe, Caerdydd, Caerffili a Powys yn ceisio cefnogi ein cymunedau lleol drwy gynnig cymysgedd o gefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd yn ymwneud â menter a hunangyflogaeth.

Wedi’i ddarparu drwy gymysgedd o ddysgu yn y gymuned a dysgu ar-lein er mwyn sicrhau mynediad teg i bawb, nid oes unrhyw syniad na chais yn rhy fawr nac ychwaith yn rhy fach ar gyfer ein Tîm, ac rydym yma i’ch helpu, waeth lle yr ydych ar eich taith.

Cymorth i wneud y newid hwnnw

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad busnes wedi’i ariannu’n llawn, a gall ein Cynghorydd Busnes mewnol eich cefnogi, os hoffech redeg busnes neu wrthi’n dechrau busnes ac angen cymorth i wireddu eich syniad.

Rydym hefyd yn gallu cynnig cyfleoedd cydweithio a rhwydweithio gydag ystod o wahanol becynnau ar gael i fodloni anghenion yr holl ddefnyddwyr, ac maent oll yn caniatáu mynediad i’n defnyddwyr i ddefnyddio lleoliad yng nghanol y dref ac yn eich galluogi i gysylltu â busnesau lleol a gwasanaethau eraill.

Sut allwn ni eich cynorthwyo:

  • Sesiynau 1 i 1 ac mewn grŵp gyda phobl sy’n gallu siarad â chi ynghylch cyflogaeth
  • Mynediad at weminarau a digwyddiadau a fydd yn rhoi sgiliau newydd i chi
  • Cymorth i ddatblygu’ch syniadau a’ch cynlluniau
  • Cyfleoedd i chi rwydweithio a chysylltu â phobl fel chithau
  • Dysgu sgiliau newydd a fydd yn eich cynorthwyo yn y gweithle

Dewch i gymell eich hun, cael eich ysbrydoli a pharatoi ar gyfer newid!

Hwb Menter Caerfyrddin

Mae Hwb Menter Caerfyrddin, a ddarparwyd gan Business in Focus mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr, yn cynnig cyfres o ddeunyddiau cymorth gyda’r bwriad o gefnogi a gwella cyfleoedd entrepreneuriaeth ar gyfer cymunedau Sir Gaerfyrddin.

Bydd amserlen ddeinamig o weithdai, ffeiriau, arddangosfeydd a sesiynau a hyrwyddwyd gan arbenigwyr hefyd yn cael ei chynnig gan yr Hwb, yn aml mewn partneriaeth â darparwyr lleol eraill sydd â gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’n gwasanaethau ni.

Mae rhan fawr o’r lle yn yr Hwb ar gael i’w llogi gan y gymuned leol, yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod preifat a lle arddangos mwy eang.