Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Mae Business in Focus yn falch o gyflwyno Dyfodol Ffocws, prosiect sy’n ffurfio rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, ar ran 13 Awdurdod Lleol. Datblygwyd y prosiect hwn i gefnogi pobl leol i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder er mwyn gyrru eu nodau entrepreneuraidd ymhellach, yn ogystal â chynnig cymorth i fusnesau sy’n ei chael hi’n anodd yn sgil y pandemig Covid-19.

Amcan y peilot

Gan gefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ar draws y DU, nod peilot y Gronfa Adfywio Cymunedol yw creu cyfleoedd i roi dulliau newydd a syniadau arloesol sy’n ymateb i heriau lleol ac anghenion lleol dan brawf. Nod y gronfa yw cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, datblygu sgiliau entrepreneuraidd, a magu’r hyder i ystyried hunangyflogaeth.

Bydd Dyfodol Ffocws hefyd yn darparu cymorth wedi’i ariannu’n llawn i fusnesau annibynnol sefydledig yng Nghymru sydd wedi mynd drwy’r felin yn ystod y pandemig, gan sicrhau ein bod yn helpu i ddiogelu busnesau a gwarchod swyddi yn y cymunedau lleol.

Helpu unigolion

Bydd y cymorth mae Business in Focus yn ei gynnig drwy Ddyfodol Ffocws yn cynnwys:

  • Sesiynau un i un ac mewn grŵp gyda phobl sy’n gallu siarad â chi ynghylch cyflogaeth
  • Mynediad at weminarau a digwyddiadau a fydd yn rhoi sgiliau newydd i gleientiaid
  • Cymorth i ddatblygu syniadau a chynlluniau cleientiaid
  • Cyfleoedd i chi rwydweithio a chysylltu â phobl fel hwythau
  • Dysgu sgiliau newydd a fydd yn helpu’r cleient yn y gweithle 

Helpu busnesau

Bydd Dyfodol Ffocws yn darparu cyngor diagnostig busnes llawn unigryw a chymorth 1 i 1 rhad ac am ddim gan Gynghorydd Busnes a fydd yn cynorthwyo busnesau i asesu eu sefyllfa bresennol a gweithio gyda nhw i gael y busnes yn ôl ar ben ffordd. Gallant hefyd gael mynediad at gymorth gyda chynllunio marchnata a busnes er mwyn datblygu a thyfu’r busnes yn llwyddiannus. Bydd y cyngor wedi’i deilwra ar gyfer bob busnes unigol a byddant yn cael eu cyfeirio at unrhyw gymorth ariannol addas sydd ar gael.

Os wyddoch chi am unrhyw fusnes a allai elwa o’n cymorth, cysylltwch â ni heddiw.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.