Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Taste of Turner
13/02/23
13/02/23
Yr wythnos hon, mae Business in Focus yn dathlu cyflawniadau Simon Turner, sef entrepreneur a pherchennog busnes sy’n rhedeg ei uned fwyd ei hun, ‘Taste of Turner’.
Mae Simon yn arbenigo mewn bwyd cartref Caribïaidd gyda naws Gymreig unigryw, ond doedd y daith tuag at sefydlu ei fusnes ddim yn rhwydd. Yn ystod y pandemig, fe ddechreuodd Simon frwydro gyda’i iechyd meddwl, gan brofi ei gyfnod gwaethaf erioed ar ôl cael ei roi ar ffyrlo o’i swydd sgaffoldio flaenorol. I ychwanegu at y pwysau, roedd yn gyfrifol am addysgu ei dair merch gartref.
Fe gafodd y syniad i ddechrau ei fusnes ei hun wrth dyrchu trwy focs o lythyrau a adawyd iddo gan ei daid, a chanddynt ryseitiau yr oedd wedi’u hysgrifennu ynddynt. Roedd yn hyderus bod y ryseitiau hyn yn rhai arbennig, a phenderfynodd ei fod am adael ei swydd a chychwyn ei fusnes ei hun. Dechreuodd Simon ar raddfa fechan i ddechrau. Derbyniodd archebion ar-lein, ac fe aeth ati’n eithaf hamddenol bryd hynny i weithio yn ôl yr archebion yr oedd yn eu derbyn. Yn ystod y cyfnod clo, rhoddodd gynnig ar godi arian, ynghyd â choginio ar gyfer y GIG. Gweithiodd gyda Chlwb Rygbi Penarth unwaith y mis, a darparodd gefnogaeth trwy baratoi prydau ar gyfer cleientiaid ymarfer corff ei wraig. Er bod Simon, o’r diwedd, wrth ei fodd wrth ei waith, roedd yn dal i freuddwydio am sefydlu ei uned fwyd symudol ei hun. Dywedodd, “Roeddwn i wedi syfrdanu gyda’r ymateb i fy nghoginio creadigol, ac roedd y niferoedd a oedd yn fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol wedi tyfu’n gyflym.”
Fe aeth Simon ati i gysylltu â Business in Focus i gael cymorth busnes arbenigol ac i wneud cais am fenthyciad trwy’r rhaglen fenthyciadau ar gyfer busnesau newydd. Nid yn unig y cafodd gyngor busnes gwerthfawr, ond hefyd llwyddodd i gael benthyciad a oedd wedi ei helpu i brynu ei fan arlwyo, ac i dalu cyflogau ei weithwyr ar gyfer blwyddyn gyntaf ei fusnes. Dywedodd Simon, “Er fy mod yn nerfus, roedd Lisa, fy nghynghorydd busnes, yn llawn ymroddiad a ffydd ynof i, bob cam o’r ffordd, ac mae wedi fy helpu i newid fy mywyd.” Mae Simon yn uchelgeisiol iawn am ddyfodol Taste of Turner, ac yn gobeithio ehangu ei fusnes. Mae’n rhoi’r clod i Lisa a’i thîm am ei helpu i gyflawni ei freuddwyd.
Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gall Business in Focus eich cynorthwyo.