Sut i gofrestru busnes yn y DU (Rhan 2)
03/02/23
03/02/23
Yn y post blaenorol o’r gyfres blog dwy ran hon buom yn edrych ar y mathau o strwythurau cwmni y dylech eu hystyried wrth ddechrau busnes. Yma gallwch ddewis ffyrdd i gofrestru eich busnes.
Unwaith y byddwch wedi dewis y math o fusnes ydych chi, nid yw’n anghyffredin newid strwythur eich busnes wrth i’ch cwmni dyfu. Er enghraifft, os bydd eich busnes yn dechrau fel unig fasnachwr ond yn ddiweddarach byddwch yn penderfynu ehangu eich cwmni gallwch ddewis bod yn gwmni cyfyngedig, a thalu treth gorfforaeth yn hytrach na threth incwm a dalwch fel masnachwr unigol. Dylid cofio nad yw cychwyn cwmni cyfyngedig yn estyniad o fod yn fasnachwr unigol a bydd un yn diweddu er mwyn i’r llall ddechrau.
Unwaith y byddwch wedi asesu’r math o fusnes yr ydych am ei sefydlu, gan ystyried yr holl fanteision ac anfanteision, gallwch ddilyn ein canllawiau ar gyfer y weithdrefn briodol. Os ydych chi’n dal yn ansicr beth fydd yn gweddu orau i chi, mynnwch sgwrs gyda’n Cynghorydd Busnes Benthyciadau i Gychwyn. Yn ogystal â darparu cymorth ariannol gall Business in Focus gynnig cyngor a mentora AM DDIM gyda’r cynllun Benthyciadau i Gychwyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru neu ddechrau eich busnes, cysylltwch â’r tîm heddiw.