John Mochan’s Property & Landscaping
22/08/22
22/08/22
Gall meddwl am ailddechrau ac ailddatblygu busnes ar ôl profi heriau yn sgil pandemig Covid-19, yn ogystal â cheisio cyflogaeth, fod yn hynod anodd. Mae taith fusnes John Mochan’s Property and Landscaping wedi ailddechrau ac yn ffynnu’n fwy nag erioed ar ôl cael cymorth ac arweiniad gan dîm Dyfodol Ffocws.
Cafodd John, o Ddinbych-y-pysgod yn Sir Benfro, ei gyfeirio at dîm Dyfodol Ffocws gan Jill, ei Hyfforddwr Swyddi yn Jobcentre Plus, Hwlffordd. Wedi asesu cais John, fe aeth Michelle Howlin, Ymgynghorydd Busnes, a James Masri, Gweinyddwr, ati i sicrhau bod eu cymorth yn canolbwyntio ar weithio tuag at y grant ‘Rhwystrau rhag Dechrau Busnes’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Dyma gronfa sydd werth £1 miliwn, sy’n galluogi unigolion, anweithredol yn economaidd, di-waith a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Roedd y cais ar gyfer y grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes yn llwyddiannus, a derbyniodd John arian i fuddsoddi yn ei fusnes Eiddo a Thirlunio. Cyflwynir y grant fel rhan o becyn cymorth sy’n cynnwys cyngor un i un a gweminarau i fagu hyder mewn arferion busnes, a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.
“Roedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn wych, ac ni allaf ddiolch digon i Michelle a James am eu cefnogaeth yn ystod y broses. Hoffwn hefyd ddiolch i Gydlynydd yr Hwb Menter, Gareth Thomas yn Gofod a Rennir Hwlffordd am ei gyfraniad. Byddwn yn argymell Dyfodol Ffocws i unrhyw gyfaill neu aelod o’r teulu sydd wedi ystyried dechrau busnes.”
Mae’r grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes wedi darparu ffrwd ariannol i John allu parhau â’i daith i’r byd hunangyflogaeth, a bydd yn parhau i dderbyn cyngor a chymorth busnes gan dîm Dyfodol Ffocws, wrth iddo fagu hyder i ddatblygu’r busnes.
Mae’r cyngor a’r gefnogaeth gan Dyfodol Ffocws, y grant gan wasanaeth Busnes Cymru ac arweiniad gwerthfawr gan Gofod a Rennir, sydd oll yn cael eu cynnig gan Business in Focus, yn dangos sut mae ein timau wedi cydweithio gyda’i gilydd i gynnig y cyfleoedd gorau i John yn ystod ei daith fusnes.
![]()
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.