Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Thornbush Hill Ltd

20/03/23

Mae Business in Focus wedi bod yn dathlu entrepreneuriaid Cymreig lleol a’u cyflawniadau drwy’r gyfres hon o golofnau. Wrth i ni dynnu at y terfyn, rydym yn falch o gyflwyno Thornbush Hill Ltd, a lansiwyd yn 2016 gan Adam a Kirsty Lewis.

Daeth beth ddechreuodd fel hobi o’u cegin ble roeddent yn gwneud canhwyllau, toddiadau cwyr a diffiwsydd a’u gwerthu, yn fuan yn fusnes llwyddiannus gyda dwy siop, a gwefan, a thîm o Eiriolwyr Brand Thornbush Hill ar draws y DU.

Adeiladodd Adam a Kirsty eu brand gyda’r syniad o ddod â phositifrwydd i fywydau pobl drwy eu cynnyrch, gan eu bod yn teimlo y gall byw mewn byd digidol gyda mynediad cyson at wybodaeth fod yn flinedig, a gall effeithio ar iechyd meddwl pobl. Nid oeddent eisiau bod ‘yn frand cannwyll arall yn unig’ ac roeddent eisiau annog pobl i gymryd cam yn ôl o’u bywydau prysur a goleuo cannwyll i ymlacio.

Roedd Adam a Kirsty yn awyddus i dyfu eu busnes hyd yn oed ymhellach, ond roeddent yn cael eu brawychu gan yr hinsawdd economaidd anodd, felly aethant at Busnes Cymru a gofyn am eu cyngor a’u harbenigedd. Cawsant eu cysylltu â chynghorydd arbenigol yn fuan a wnaeth eu helpu i ddatblygu cynllun busnes.

O ran eu profiad gyda Busnes Cymru, dywedodd Adam, “Cafodd lefel y cyngor, cyflymder y cynigiodd y tîm y gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael i ni argraff fawr arnaf. Rydym yn awr wedi arwyddo’r Addewid Twf Gwyrdd, a byddwn yn rhedeg busnes sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd drwy ddefnyddio cwyr sy’n seiliedig ar blanhigion 100% yn y canhwyllau, defnyddio pecynnau wedi’u hailgylchu, a chael gwared ar blastig untro o’r busnes. Mae’r gefnogaeth gan Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy.”

Ym mis Hydref 2022 ar ôl cael ei enwebu, mynychodd Thornbush Hill Ltd Wobrau Busnes Bro Morgannwg, Gwobrau Busnes Arweiniol yn Dathlu Rhagoriaeth, ble gwnaethant ennill gwobr ‘Busnes Manwerthu’r Flwyddyn’.

Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gall Business in Focus eich cefnogi chi. Yn Business in Focus, ein nod yw adnabod talent yma yng Nghymru a dathlu busnesau newydd Cymreig.