Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: By-the-Wye 

11/01/23

Wrth ddathlu entrepreneuriaid Cymru yr wythnos hon, rydym am eich cyflwyno i ‘By-the-Wye’, sef llety glampio moethus ‘ym mrigau’r coed’ a leolir ym mherfeddion Cymru. Roedd gan Steve a Dawn Farnworth brofiad blaenorol o redeg llety, oherwydd buont yn rheoli llety Gwely a Brecwast am bron i 19 mlynedd. A hwythau’n deithwyr brwd ac yn mwynhau gwersylla mewn coedwigoedd, fe wnaethon nhw fachu ar y cyfle cyntaf i droi coedwig ger eu cartref yn lleoliad glampio. 

Roedd Steve a Dawn yn llawn cyffro o gael adeiladu gwersyllfa yn y goedwig, ond fe sylweddolon nhw eu bod eisiau bod yn unigryw ac adeiladu rhywbeth nad oedd ar gael yn gyffredin. Ar ôl ystyried sawl opsiwn, fe benderfynon nhw fuddsoddi mewn pebyll y gellir eu codi uwchlaw’r ddaear. Caiff y pebyll hyn eu codi ar lwyfannau uchel ym mrigau’r coed, gan roi pwynt gwerthu unigryw i By-the-Wye. 

Mae By-the-Wye yn fusnes teuluol moethus a leolir ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, lle cynigir profiadau ecogyfeillgar a chynaliadwy i’r gwesteion. Ceir yno bebyll saffari a thanau gwersyll tanbaid, gwelyau hardd, soffas moethus, dŵr tap, toiledau sy’n fflysio, pethau ymolchi ecogyfeillgar, a cheginau wedi’u dodrefnu â llawer o ddyfeisiau. Mae’r safle glampio’n rhedeg ar ynni’r haul a generaduron a’r bwriad yw lleihau effaith y safle ar yr amgylchedd a denu llawer o fywyd gwyllt. 

Mae rhedeg busnes arbenigol o’r math hwn yn esgor ar ei gyfres ei hun o heriau, a rhaid cael cymorth busnes arbenigol. Penderfynodd Edith Farnworth, merch Dawn a Steve a chyd-sylfaenydd y busnes, gysylltu â Hwb Menter Ffocws y Drenewydd. Fe wnaeth yr Hwb eu cynorthwyo trwy gynnig cyngor busnes a’u helpu i lunio cynllun busnes strwythuredig. 

Yn Business in Focus, ein nod yw adnabod talent yma yng Nghymru a dathlu busnesau newydd Cymreig. Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gallwn eich cynorthwyo.