Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Riley Sporting Memories
06/02/23
06/02/23
Mae Business in Focus yn falch o gydnabod busnesau newydd Cymreig lleol, ac yn dathlu eu taith tua llwyddiant yn y gyfres hon o golofnau. Yr wythnos hon, rydym am gyflwyno Riley Sporting Memories, Nwyddau a Chynhyrchion.
Sefydlwyd y cwmni yn ystod y cyfnod clo gan Ian Williams. Mae Riley Sporting Memories, Goods and Products yn arbenigo mewn fframio sy’n gysylltiedig â chwaraeon, memorabilia, tlysau, anrhegion, llyfrau a chardiau. Mae gan siop Ian ddetholiad eang o lyfrau, sebonau y maent yn eu cynhyrchu eu hunain, canhwyllau sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol ac anrhegion eraill sydd â thema chwaraeon leol iddynt.
Fel y rhan fwyaf o entrepreneuriaid, roedd gan Ian ei amheuon ynghylch dechrau ei fusnes ei hun a holodd a fyddai’n gallu gwneud hynny. Gyda’i gefndir ym maes adeiladu, roedd rhedeg busnes yn ddieithr iawn iddo.
Prif her Ian oedd meddu ar syniad, ond heb wybod ble i fynd na phwy i droi atynt. Dywedodd, “Os ydych chi’n gweithio ym maes adeiladu fel y gwnes i, mae hwn yn llwybr hollol wahanol. Sut ydych chi’n ei wneud? Doeddwn i wir ddim yn gwybod ble na sut i ddechrau.”
“Ar ôl peth ymchwil, es i at Hyb Menter Ffocws, Y Drenewydd, ac estyn allan at eu cynghorwyr busnes. Roedd llawer o bethau i feddwl amdanynt ond y prif ffocws i mi oedd deall sut i oroesi, sut i wneud arian o’r busnes a’i gadw i fynd.”
I ddechrau, dysgodd Ian sut i baratoi dadansoddiad llif arian a chreu cynllun busnes. Yna mynychodd gyrsiau a oedd ar gael yn yr Hyb ar farchnata a rheoli cyfryngau cymdeithasol er mwyn dysgu sut i farchnata ei fusnes. Mae Ian yn canmol yr Hyb am ei helpu i roi hwb i’w hyder a’i ddealltwriaeth o sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gan ei fod yn credu ei fod wedi bod yn hollbwysig i’w fusnes.
Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gallwn ni roi cefnogaeth i chi.