Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Happy Lotus Acupuncture
09/12/22
09/12/22
I ddathlu dechrau busnes o Gymru’r wythnos hon, dyma, Happy Lotus Acupuncture gan Rhian de Oliveira.
Gan lywio’i ffordd drwy sawl her, sefydlodd Rhian de Oliveira, gweithiwr cymorth gofal iechyd, Happy Lotus Acupuncture, lle ar gyfer iachâd naturiol yn defnyddio meddyginiaeth draddodiadol. Mae’r busnes yn darparu gofal personol i bobl, yn dibynnu ar eu hanghenion, gan ddefnyddio aciwbigo a thechnegau meddyginiaeth draddodiadol eraill megis tylino Swedaidd.
Cafodd Rhian y syniad o ddechrau ei busnes ei hun pan gafodd drafodaeth â chydweithiwr oedd yn dilyn gyrfa debyg. Roedd hi eisiau bod yn berchennog busnes oedd yn rheoli ei oriau ei hun.
Doedd ei thaith at lwyddiant ddim yn hawdd nac yn llyfn. Bu raid iddi oresgyn sawl her pan ddechreuodd ei thaith yn 2015. Roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i’r ysgol i astudio ar gyfer ei gradd baglor wrth ofalu am ei babi newydd anedig ar yr un pryd. Yn ogystal â hyn, cafodd ddiagnosis o anhawster dysgu – Dyslecsia. Llwyddodd Rhian i reoli’r dyslecsia, a gwelodd mai hwn oedd y rheswm dros yr anawsterau yr oedd wedi ei gael yn ysgrifennu aseiniadau yn y gorffennol. Arweiniodd ei hunanymwybyddiaeth a’i dyfal barhad i weithio’i ffordd drwy’r blynyddoedd anodd hyn at ei llwyddiant, ac yn 2020, enillodd radd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd mewn aciwbigo.
Gyda chymorth ac arweiniad anhygoel gan ein Hymgynghorydd Busnes Benthyciadau Dechrau Busnes, Craig Tamplin, cafodd fenthyciad a llwyddodd i wireddu ei breuddwyd o ddechrau ei busnes, Happy Lotus Acupuncture, ym mis Mai 2022. Dyfalbarhad a’r natur benderfynol a ddangosodd Rhian i wireddu ei breuddwydion sydd wedi ei galluogi i oresgyn pob rhwystr ac agor ei busnes ei hun.
Heddiw, mae Rhian yn canolbwyntio ar adeiladu ei sylfaen o gleientiaid. Mae’n bwriadu agor clinig llawn amser ac yn bwriadu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy ei gwasanaethau. Drwy weithio gyda menter gymdeithasol leol, mae Happy Lotus yn bwriadu cynnig clinigau i bobl sydd methu fforddio ei gwasanaethau. Mae ganddi gynlluniau mawr hefyd i gynnig enciliadau llesiant yn y dyfodol agos, fydd yn cynnwys wythnos o driniaethau aciwbigo, ioga, myfyrdod, a bwyd o safon ragorol wedi ei ddarparu yn amgylcheddau tawel cefn gwlad Cymru.
Os mai dechrau busnes yw eich breuddwyd chi, gall Busnes mewn Ffocws eich cynorthwyo. Amcan Business in Focus yw cydnabod doniau cartref, gwirioneddol a dathlu Dechrau Busnes o Gymru. Ewch i www.businessinfocus.co.uk am fwy o wybodaeth.