Gwerth dros £800 miliwn o fenthyciadau wedi’u rhoi i ddarpar entrepreneuriaid

16/08/22

Gyda gwerth dros £800 miliwn o fenthyciadau wedi’u rhoi i ddarpar entrepreneuriaid, sicrhewch eich cyllid heddiw gyda Benthyciadau Cychwyn Busnes.

Gall ariannu busnes fod yn broses frawychus ond mae Business in Focus yma i’ch cefnogi ar hyd eich taith. Ein nod yw helpu entrepreneuriaid i gael cychwyn cryf ac ariannu eu syniadau yn llwyddiannus gyda chefnogaeth y cynllun Benthyciadau Cychwyn Busnes. Rydym wedi helpu nifer o entrepreneuriaid i gael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ariannu eu busnes.

“Roedd y Start up Loans Company a Business in Focus yn cyd-fynd â mi drwy gydol y daith hon, ac rwyf wedi bod yn hapus iawn gyda’u gwasanaethau. Gan nad oedd gennyf unrhyw brofiad o’r blaen ym maes rheoli busnes, roeddwn i wirioneddol yn gwerthfawrogi cael fy mentora gan arbenigwyr proffesiynol.” – Abigail, sylfaenydd Welsh Luxury Hamper Company.

Mae Business in Focus wedi helpu nifer o entrepreneuriaid i sicrhau benthyciadau i dyfu eu busnes. Sicrhaodd Abigail, sylfaenydd Welsh of Welsh Luxury Hamper Company yng Nghas-gwent ac un o’n cleientiaid, fenthyciad o £9000 i lansio ei syniad busnes. Derbyniodd Abigail gefnogaeth fentora hefyd gan ein Cynghorydd Busnes profiadol Craig Tamplin.

Mae Craig wedi cefnogi llawer o fusnesau i gychwyn arni ac mae’n ymfalchïo yn y gallu i fod wrth law drwy gydol blwyddyn gyntaf taith busnes, i sicrhau bod gan gleientiaid yr holl offer cywir i barhau â’u llwyddiant.

Wrth siarad am ei brofiad yn helpu entrepreneuriaid i sicrhau cyllid, dywedodd Craig, “Mae dod o gefndir o hunangyflogaeth wedi rhoi’r wybodaeth a’r profiad i mi helpu pobl i wneud cais am Fenthyciad Cychwyn Busnes. Rwy’n helpu cleientiaid drwy roi’r offer cywir a’r arbenigedd cywir i’w helpu ar eu taith, gan ei gwneud yn ddidrafferth. Mae’n bwysig i entrepreneur deimlo’n sefydlog yn ariannol wrth gychwyn busnes a fy swydd i yw eu helpu i gyflawni hynny a lansio eu busnes yn llwyddiannus.”

Mae Business in Focus yn Bartner Darpariaeth Swyddogol i’r cynllun Benthyciad Cychwyn Busnes ac mae gan bob entrepreneur sy’n gwneud cais am Fenthyciad Cychwyn Busnes drwy Business in Focus fynediad at gynigion busnes arbennig a chymorth gan Gynghorwyr Busnes arbenigol. Gyda mentor i’ch arwain bob cam o’r ffordd, mae ein cynghorwyr yma i roi’r arweiniad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i greu cynllun busnes cadarn a chyflwyno eich cais.

Beth yw Benthyciad Cychwyn Busnes?

Mae Benthyciadau Cychwyn Busnes yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth ac a weinyddir gan Fanc Busnes Prydain, sy’n darparu benthyciadau llog isel ad-daladwy. Maent ar gael i bobl sy’n awyddus i ddechrau busnes yng Nghymru neu i fusnesau yng Nghymru o dan dair oed sydd angen cymorth ariannol er mwyn datblygu a thalu costau gweithredu. Yn wahanol i fenthyciad busnes, mae hwn yn fenthyciad personol heb ei warantu sydd ar gael i unigolion dros 18 oed yn unig.

Pam ddylech chi wneud cais am Fenthyciad Cychwyn Busnes?

Mae Benthyciadau Cychwyn Busnes yn darparu cymorth ariannol gwerth rhwng £500 a £25,000 i entrepreneuriaid. Un o fanteision mwyaf gwneud cais am Fenthyciad Cychwyn Busnes yw cyfradd llog isel a bennir ar 6.19% APR. Bydd cyfraddau llog sefydlog yn eich helpu i gynllunio’ch arian yn well a a pheidio â theimlo’n ansicr ynghylch cynnydd sydyn mewn cyfraddau llog. Mae cyfnodau ad-dalu’n amrywio o un i bum mlynedd gan ganiatáu digon o amser i chi ad-dalu’ch benthyciad. Nid oes unrhyw ffioedd sefydlu, costau ad-dalu cynnar nag unrhyw ofynion masnachu sylfaenol i wneud cais am y benthyciad. Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae pob ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael blwyddyn o fentora busnes arbenigol am ddim a chynigion busnes ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais am Fenthyciad Cychwyn Busnes, cysylltwch â’r tîm heddiw drwy’r wefan