Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Hostel Cwtsh
02/12/22
02/12/22
Lleolir Hostel Cwtsh yng Nghanol Dinas Abertawe ac mae’n cynnig lle canolog modern ac unigryw i archwilio’r ddinas a’r cyffiniau, gan ddarparu ar gyfer grwpiau amrywiol o warbacwyr, teuluoedd, grwpiau ysgolion a llawer mwy.
Ar ôl cwblhau ei addysg, ac yntau wedi byw yn Abertawe ers pedair blynedd, ym mis Mai 2019 penderfynodd Llŷr Roberts (peiriannydd a drodd yn entrepreneur) chwilio am yr eiddo perffaith yn Abertawe fel y gallai gyfuno ei gariad at deithio a’r ddinas ac agor hostel ei freuddwydion! Ei her gyntaf fu dod o hyd i adeilad ar gyfer yr hostel, a chymerodd hynny lawer mwy o amser na’r disgwyl. Rai misoedd ar ôl dechrau chwilio, daeth o hyd i’r adeilad perffaith yn edrych dros erddi’r castell – ond roedd llawer mwy o waith o’i flaen. Rhaid oedd iddo sicrhau’r caniatâd a’r cyllid angenrheidiol er mwyn iddo allu defnyddio’r eiddo. Cysylltodd Llŷr â Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin i gael cyngor busnes a chymorth gyda’r cyllid. Llwyddodd y rhwydweithio yn yr Hwb i’w helpu i greu cysylltiadau busnes – rhywbeth a fu’n hollbwysig yn ystod cam cynllunio’r busnes.
Ym mis Awst 2020 cafodd arian gan Gronfa Busnesau Micro a Bychan Llywodraeth Cymru i adeiladu a hyrwyddo cyrchfannau twristiaeth yng Nghymru. Ddeufis yn ddiweddarach, cafodd Llŷr Fenthyciad Canol Tref gan gyngor Abertawe er mwyn ei helpu i sefydlu ei fusnes.
O’r diwedd, dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2021, pan oedd cyfnodau clo’r pandemig Covid ar eu hanterth. Arweiniodd hyn at oedi mawr wrth gaffael eitemau, ac effeithiodd ar amserlenni eraill hefyd.
Ar ôl i’r gwaith adeiladu llafurus ddod i ben, roedd Hostel Cwtsh yn barod i’w hagor fis Tachwedd 2021; ond gan ei bod wedi cael ei hagor yn ystod pandemig, effeithiodd hynny ar y nifer o bobl a drefnodd i aros yno.
Ar ôl goresgyn sawl her, mae Hostel Cwtsh bellach yn enwog yn Abertawe ac mae wedi cael adolygiadau a sgoriau rhagorol. Maen nhw newydd agor Cwtsh Coffi a Crepes @CwtshCrepes er mwyn ymestyn eu harlwy yn yr Hostel ac mae ganddyn nhw gynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer y dyfodol er mwyn cynnig tripiau, pecynnau a phrofiadau ychwanegol i’w gwesteion! Y nod yw sicrhau mai Hostel Cwtsh fydd yr hostel orau yng Nghymru!