Ditsy Puffin Designs mewn siop yn Hwlffordd   

22/12/22

Mae’r busnes anrhegion lleol ac unigryw, Ditsy Puffin Designs, wedi derbyn grant gan Gyngor Sir Benfro i ehangu eu cynnyrch a’u masnach ar-lein. Yn gydweithrediad cyffrous rhwng dau gwmni yn Sir Benfro, Right Price Print a Pembrokeshire Moments, mae Ditsy Puffin Designs yn dwyn ynghyd yr holl elfennau gorau ar waith dylunio crefft lleol.

Mae ehangu i fasnachu ar-lein wedi cynyddu enw’r busnes yn sylweddol ac wedi rhoi cyfle i fwy o gwsmeriaid brynu dyluniad unigryw o Sir Benfro.

Mae’r sylfaenwyr, Barbara Phillips a Rachel Mullet, wedi bod yn profi eu cynnyrch gyda chwsmeriaid lleol mewn lleoliad siop untro yn Hwlffordd cyn lansio siop lawn ar-lein. Wrth drafod eu profiad yn y Gofod a Rennir Hwlffordd, dywedodd Rachel a Barbara, “Roedd y cyfle i brofi’r fasnach mewn siop untro a deall sut mae ein cynnyrch yn gweithio ar y farchnad yn hynod werthfawr, oherwydd cawsom fewnwelediad da iawn i’n cynnig cynnyrch ar-lein.”

Dyluniwyd eu hystod o gynnyrch crefft gyda chymorth Ancient Connections, prosiect treftadaeth a thwristiaeth traws-ffiniol a gynhelir gan Gyngor Sir Benfro.

Wrth drafod y siop untro, dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Cymunedol Cynorthwyol:

“Mae Gofod a Rennir Hwlffordd yn rhoi cyfleoedd i entrepreneuriaid lleol brofi masnach, ac roeddem yn falch iawn o gynnal Ditsy Puffin Designs a wnaeth ddod â’u cynnyrch diweddaraf i’n huned profi masnach, i ychwanegu at ein cynnig Nadoligaidd eleni.”

Mae Gofod a Rennir Hwlffordd yn rhoi cyfle i brofi masnach, ond mae hefyd yn cynnig cymorth busnes un i un, cyfleusterau cydweithio, ac ystafelloedd cyfarfod.  

Ariennir Gofod a Rennir Hwlffordd gan Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, a weinyddir gan CGGC.  Mae Business in Focus yn cyflwyno’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Benfro.