Rydym yn bartner darparu swyddogol i un o “Ddarparwyr Benthyciadau Gorau ar gyfer Busnesau Bach 2022”
19/08/22
19/08/22
Mae benthyciad busnes bach yn fenthyciad ariannol sy’n cynorthwyo perchnogion busnesau bach i gael mynediad at gyllid ar gyfer ehangu eu busnes a thalu costau gweithredu. Cynhaliodd Forbes Advisor ymchwil i ganfod y benthyciadau gorau sydd ar gael ar gyfer busnesau bach. I benderfynu ar eu sgoriau, roeddent yn ystyried nifer o feini prawf i feirniadu darparwyr benthyciadau busnesau bach a llunio rhestr fer o ambell ddarparwr.
Y meini prawf a ddefnyddiwyd i lunio rhestr fer
Edrychodd tîm o newyddiadurwyr ariannol profiadol o Forbes Advisor yn fanwl ar sawl ffactor cyn enwi’r chwech gorau. Edrychwyd ar y Gyfradd Ganrannol Flynyddol (APR), maint y benthyciad y gellid ei fenthyca, hyd y cyfnodau ad-dalu a ffactorau gwahaniaethu eraill megis ffioedd, taliadau ad-dalu cynnar, gofynion trosiant, ymysg sawl ffactor arall cyn penderfynu ar ‘Darparwyr Benthyciadau Gorau ar gyfer Busnesau Bach 2022’. Wedi ymchwil trwyadl, mae’r tîm wedi dod o hyd i’r chwe darparwr gorau ar gyfer benthyciadau i fusnesau bach, gydachynllun Benthyciad Dechrau Busnes y British Business Bank yn fuddugol.
Rydym yn darparu’r benthyciad personol hwn ar gyfer busnes
Mae Business in Focus, menter gymdeithasol nid er elw, yn falch o fod yn bartner darparu swyddogol Benthyciadau Dechrau Busnes, sy’n cynnig benthyciadau i fusnesau bach heb hanes o fasnachu. Dywedodd Forbes Advisor bod gan y benthyciad busnes bach un o’r ‘cyfraddau llog blynyddol mwyaf cystadleuol’, cyn ised â 6% APR (sefydlog). Mae Benthyciadau Dechrau Busnes yn cynnig benthyciadau heb eu gwarantu o rhwng £500 – £25,000 gyda chyfnod ad-dalu o rhwng 1 i 5 mlynedd. Ar ôl ichi lwyddo i gael benthyciad, byddwch hefyd yn derbyn mentora busnes am ddim a mynediad at gynigion busnes arbennig am hyd at flwyddyn ar ôl ichi ddechrau marchnata.
I gael golwg fanylach ar y benthyciad, ewch i’n tudalen Benthyciadau Dechrau Busnes