Cwtch Candles yn bwriadu bod yn llwyddiant tanbaid yn Gofod a Rennir Hwlffordd

02/03/23

Y busnes bach diweddaraf o Sir Benfro i ddod yn denant yn y cyfleusterau profi masnach yn Gofod a Rennir yw Cwtch Candles, busnes canhwyllau cwyr soi a sefydlwyd yn 2016.

Mae’r tîm gwr a gwraig, gyda chymorth Miss Cwtch Bach, yn angerddol dros bersawr a sefydlwyd y busnes ar ôl cael gwybod bod gan Mrs Cwtch alergedd i ganhwyllau paraffin. Wrth geisio dod o hyd i ddewis amgen addas, daethant ar draws cit creu canhwyllau cwyr soi, a dechreuon nhw arbrofi. Ar ôl dechrau gyda bocs bychan o ganhwyllau ac ambell dwb o gwyr toddi, maen nhw bellach yn eu seithfed flwyddyn o fasnachu ac yn cynnig dros 100 o arogleuon gwahanol mewn cynnyrch ar gyfer y cartref, yr ystafell ymolchi a’r car.

Ar ôl masnachu mewn llawer o ffeiriau a marchnadoedd crefftau, maen nhw bellach yn anelu at ddod yn ‘Siop Un Stop Aroma’ ac yn profi masnachu’r cynnyrch yn un o’r cyfleusterau siop dros dro yn Gofod a Rennir Hwlffordd. Bydd yr amser yn y siop yn rhoi cyfle iddynt ddeall sut beth yw gweithredu mewn gofod manwerthu, a chodi ymwybyddiaeth o’u brand a’u cynnyrch.

Dywedodd Lowri:

“Rwy’n edrych ymlaen at weld a fydd hyn yn gweithio’n dda, gall fod yn anodd gwybod pa bersawr mae rhywun yn ei hoffi wrth archebu ar-lein. Bydd gallu galw heibio ac arogli’r cynnyrch yn ddelfrydol, ac yn rhoi cyfle gwych inni arddangos ein hystod lawn o gynnyrch”.

Mae’r siop dros dro Gofod a Rennir wedi’i lleoli yng Nghanolfan Siopa Riverside, lleoliad canolog gyda mynediad rhwydd, lle roedd Cwtch Candles yn masnachu tan 24 Chwefror.

Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Cymunedol Cynorthwyol Gofod a Rennir:

“Mae hyn yn gyfle cyffrous iawn i Lowri a’i gwr gael gwybod a allent wneud i’r busnes lwyddo mewn gofod manwerthu. Byddant yn defnyddio eu hamser gyda ni i ddeall sut i arddangos eu cynnyrch, cael adborth uniongyrchol gan gwsmeriaid a chodi ymwybyddiaeth o’u brand yn y dref.”

Mae Gofod a Rennir Hwlffordd yn cynnig cyfleoedd i brofi masnach yn ogystal â darparu cymorth busnes 1 i 1, gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio, cyfleusterau rhannu gweithle ac ystafelloedd cyfarfod, wedi’u hariannu’n llawn.  

Ariennir Gofod a Rennir Hwlffordd gan Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, a weinyddir gan CGGC. Mae Business in Focus yn cyflwyno’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro.