Busnes Dylunio Mewnol newydd yn dod yn denant diweddaraf Gofod a Rennir Hwlffordd 

07/02/23

Bewitched Interior Designs, sy’n gwmni teuluol a leolir yn Sir Benfro ac a sefydlwyd gan Marie Tate, yw’r tenant diweddaraf i fanteisio ar y cyfleuster profi masnach yn Gofod a Rennir Hwlffordd.

Mae Bewitched Interior Designs yn arbenigo mewn décor sy’n addas ar gyfer bob achlysur, ac mae Marie yn ymfalchïo yn yr elfen bersonol mae’n ei chynnig drwy gynorthwyo a chynghori cwsmeriaid ar y darnau décor mwyaf addas i’w dewis, yn seiliedig ar eu gofynion unigol.

Dywedodd Marie Tate, perchennog Bewitched Interior Designs,

“Rydym yn fusnes teuluol newydd yn yr ardal sy’n cynnig cyngor ac arweiniad i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r décor sy’n bersonol i’ch anghenion. P’un a ydych yn chwilio am rywbeth bach neu fawr, rydym yma i gynnig darnau décor o ansawdd uchel. Rydym yn edrych ymlaen at symud ein busnes newydd i gyfleuster profi masnach Gofod a Rennir Hwlffordd, fel ein bod yn gallu rhannu ein busnes, derbyn adborth ac adeiladu ein sylfaen cwsmeriaid.”

Bu Marie yn tyfu ei busnes yn raddol drwy gysylltiadau personol a’r cyfryngau cymdeithasol, ond mae hi angen profi ei chynnyrch a’i gwasanaeth ar gynulleidfa ehangach er mwyn sicrhau llwyddiant ei busnes. Mae’r siop dros dro yn Gofod a Rennir Hwlffordd wedi’i lleoli’n berffaith yng Nghanolfan Siopa Riverside ar gyfer denu cwsmeriaid newydd. Gall Marie hefyd fanteisio ar gymorth busnes am ddim sydd ar gael gan y tîm yn yr Hwb sydd gyferbyn, yn ymwneud ag agweddau amrywiol o redeg busnes.

Dyma oedd gan Gareth Thomas, Dirprwy Reolwr Cymunedol Gofod a Rennir Hwlffordd, i’w ddweud: 

“Mae ein huned fasnach yn ymwneud yn llwyr â chynnig cyfleoedd i entrepreneuriaid lleol brofi masnach eu cynnyrch neu wasanaethau yn ein siop dros dro, gan eu galluogi i fanteisio ar ein lleoliad canolog yn Hwlffordd i gyrraedd cynulleidfa fwy. Ar ôl blwyddyn gyntaf hynod galonogol yn cynnig y gwasanaeth hwn, rydym yn falch o groesawu Marie a Steve i Gofod a Rennir Hwlffordd fel ein tenantiaid cyntaf yn 2023 ac edrychwn ymlaen at wylio eu llwyddiant dros yr wythnosau nesaf.”

Mae Gofod a Rennir Hwlffordd yn cynnig cyfleoedd i brofi masnach yn ogystal â darparu cymorth busnes 1 i 1, gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio, cyfleusterau rhannu gweithle ac ystafelloedd cyfarfod, wedi’u hariannu’n llawn. 

Ariennir Gofod a Rennir Hwlffordd gan Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, a weinyddir gan CGGC. Mae Business in Focus yn cyflwyno’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro.