Blooming Wonderfull yn Gofod a Rennir Hwlffordd

28/10/22

Tîm gŵr a gwraig, o’r enw Colin ac Abigail Nash, yw perchnogion Blooming Wonderfull, sy’n creu celf a chrefft pwrpasol, ac yn gwerthu tuswau blodau unigryw, ynghyd â hamperi, anrhegion a gwydr lliw hardd. Cawsant gyfle i fasnachu o fewn siop dros dro Gofod a Rennir Hwlffordd trwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr 2021, wrth chwilio am leoliad masnachu mwy parhaol yng nghanol y dref.

Profi’r farchnad

Mae’r siop dros dro yn rhoi cyfle i fusnesau newydd brofi’r farchnad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth, mewn ardal sy’n cael nifer uchel o ymwelwyr, a chael cymorth ar gyfer eu busnes gan y tîm yn Gofod a Rennir. Dewisodd Colin ac Abigail adleoli i Hwlffordd ar ôl cwympo mewn cariad â’r ardal, a gwelsant mai’r siop dros dro oedd y cyfle perffaith i fasnachu yng nghanol tref Hwlffordd. Mae gan eu busnes, Blooming Wonderful, amrywiaeth arbennig o gynhyrchion, y caiff pob un ohonynt eu gwneud yn lleol. Ceir rhai eitemau sydd wedi’u huwchgylchu hyd yn oed, i greu cynhyrchion unigryw sy’n gweddu i’r dim fel eitemau addurnol ar gyfer y cartref, neu fel anrhegion i ffrindiau neu aelodau o’r teulu.

“Roedd y siop dros dro wedi caniatáu i ni asesu’r cynhyrchion a oedd yn gwerthu, a’r pethau nad oeddynt yn gwerthu cystal. Roedd hefyd yn gyfle i ni ddeall ein cryfderau a’n gwendidau personol ein hunain ymhob agwedd ymarferol ar redeg siop fanwerthu, o safbwynt gwaith trefnu i’n cysylltiadau â chwsmeriaid. Rhoddodd yr hyder i ni fwrw ymlaen â datblygu ein model busnes ar sail ein profiadau yn y siop dros dro.”

Ag gall hwn fod yn gyfle i chi? Darganfyddwch mwy am ein cyfleoedd masnachu