Podlediad: Creu Cymuned wedi’i Chefnogi ar gyfer Twf Busnes

02/12/22

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales

Holly Jones, Rheolwr Hwb y rhaglen ‘Hwb Ffocws Menter Casnewydd’ Business in Focus sgwrs gyda Business News Wales am yr Hwb Menter, wedi’i greu ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau o’r un anian i gydweithio, a theimlo eu bod yn rhan o gymuned.

Mae Hwb Ffocws Menter Casnewydd yn cynnig awyrgylch strwythuredig, lle gall pobl ddianc rhag yr un bedair wal gartref, ac mae’n creu amgylchedd lle gall busnesau newydd fanteisio’n llawn ar wasanaeth cymorth busnes dynamig, wedi’i gynllunio i atgyfnerthu eu twf busnes.

Mae’r Hwb yn cynnig cyfle i fusnesau newydd a busnesau sy’n tyfu gael cyngor wedi’i deilwra er mwyn helpu i gyflawni eu nodau busnes. Mae ymgynghorwyr busnes arbenigol yn yr Hwb yn cynnig arweiniad a chymorth un-i-un, gan fynd i’r afael â chynlluniau busnes, ceisiadau am gyllid, tendrau, goblygiadau cyfreithiol a mwy.

Wrth annog busnesau canolbarth Cymru i dyfu’n weithredol, mae Hwb Ffocws Menter Casnewydd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio a gweithdai ymgysylltu i gysylltu, rhannu syniadau, cymorth gyda marchnata, creu gwefan, a mwy.

Beth yw gwaith Business in Focus?

Rydym yn fenter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i gefnogi busnesau hen a newydd, ac rydym wedi bod yn helpu pobl i dyfu eu busnesau ers tri degawd bellach, drwy gynnig cyngor busnes arbenigol wedi’i deilwra, mynediad at gyllid, gofynion eiddo a hyfforddiant sgiliau.

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales