Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: The Dressmaker’s Daughter
03/02/23
03/02/23
Yn nathliad yr wythnos hon o fusnesau newydd o Gymru, rydyn ni’n eich cyflwyno i ‘The Dressmaker’s Daughter’. Siop ddillad ac addasiadau vintage o eiddo Cheryl Griffiths.
Erbyn heddiw, mewn byd o brynwriaeth, mae ffasiwn gyflym wedi dod yn norm, mae gan bobl fynediad at bopeth trwy glicio botwm, ac mae gor-ddefnyddio a phrynwriaeth yn ffynnu. Sefydlodd Cheryl Griffiths ei busnes yn gyntaf yn 1998 gyda ffocws ar wneud ffrogiau, roedd yn creu gwisgoedd clwb ar gyfer dawnswyr. Datblygodd y siop yn araf i fod yn siop gwisg ffansi, ond nid dyna ei breuddwyd mewn gwirionedd. Roedd Cheryl yn awyddus i fod yn wneuthurwr dillad, gan greu brand a fyddai’n osgoi ffasiwn gyflym ac yn fwy cynaliadwy ac unigryw.
Rhoddodd y pandemig amser a chyfle i Cheryl ddwyn ffrwyth ar ei chynlluniau gwaith. Roedd hi eisiau bod yn rhan o’r fenter gymdeithasol, Circular Economy. Siop gyda chysyniadau newydd yng nghanolbarth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar fod yn siop uwchgylchu gyda dim gwastraff. Adeiladodd Cheryl stiwdio yng nghefn y siop, a oedd hefyd yn fan addysgiadol i bobl ddeall sut i uwchgylchu, ailgylchu a throi hen ddillad yn gelf. Pan ofynnwyd iddi am y cysyniad, dywedodd, “Mae’r model cyfan yn seiliedig ar gynaliadwyedd. Rydyn ni eisiau i blant sy’n tyfu i fyny wybod bod y pethau hyn yn hygyrch ac yn rhad, ac yn costio cyn lleied â phaned o goffi.”
Mae ei thaith at lwyddiant yn wirioneddol ysbrydoledig.
Os ydy hi’n freuddwyd gennych i ddechrau eich busnes eich hun, gallwn ni eich cynorthwyo. Ein nod yn Business in Focus yw adnabod talent yma yng Nghymru, a dathlu busnesau newydd Cymreig.