Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Nomadic Washrooms

30/12/22

Wrth inni fynd ati’r wythnos hon i ddathlu busnesau newydd Cymreig, hoffem sôn am Nomadic Washrooms. Sefydlwyd y cwmni gan Kate a Stu Richards. Maen nhw’n arbenigo mewn darparu ôl-gerbydau ‘Cytiau Bugeiliaid’ moethus sy’n cynnwys toiledau a chawodydd.

Wrth gynllunio’u priodas, sylweddolodd Kate a Stu fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer unedau toiled moethus, llawn steil y gellid eu llogi, ac fe wnaeth hyn eu sbarduno i sefydlu Nomadic Washrooms. Lleolir y cwmni yng Nghanolbarth Cymru, ac yn ddiweddar enillodd y Wobr Busnes Newydd Twristiaeth a Hamdden yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru 2022.

Daeth sawl her i ran Nomadic Washrooms wrth geisio cael gafael ar gyllid a deall rheoliadau gwaredu gwastraff. Ond un her nad oedd y cwmni wedi paratoi o gwbl ar ei chyfer oedd y pandemig. Roedden nhw newydd lansio’r cwmni ac yn wynebu cyfnod prysur dros ben yn ystod y tymor priodasau, ond bu’n rhaid iddynt ohirio pob dim oherwydd Covid-19. Roedden nhw ar fin colli gobaith, ond llwyddodd Kate a Stu i achub y sefyllfa ac fe gawson nhw gontract hirdymor gyda’r BBC ar gyfer llogi eu huned. Fe wnaeth hyn sicrhau bod modd i’r busnes weithredu yn ystod y pandemig.

A hwythau’n wynebu cynifer o heriau o ran ailsefydlu’r busnes, gofynnodd Kate a Stu i Dîm Hwb Menter Ffocws y Drenewydd am help. Awgrymodd y tîm y dylai Kate a Stu gysylltu ag InSynch Digital Marketing i gael help gyda’u hymgyrch Google Ads. Ar ôl cyflwyno’r newidiadau a argymhellwyd, gwelsant fod llawer mwy o bobl yn ymhél â’u gwefan. Hefyd, fe wnaethon nhw fynychu gweithdai yn yr Hwb ac fe sylweddolon nhw ei fod yn lle gwych i rwydweithio gyda phobl o’r un meddylfryd. Ar hyn o bryd, mae Kate a Stu yn brysur yn buddsoddi mewn ychwaneg o unedau ac maen nhw’n gweithio ar ddatblygu eu portffolio. Eu gobaith yw cael cyfanswm o 16 uned yn eu cynllun busnes pedair blynedd.

Ein nod ni yn Business in Focus yw adnabod talent yma yng Nghymru a dathlu busnesau newydd Cymreig. Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gallwn eich cynorthwyo.