Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Dragon Fire and Water Services 

23/12/22

Wrth ddathlu entrepreneuriaid Cymreig yr wythnos hon, dyma gyflwyno’r ddau ddisglair o Gaerdydd, Ryan Godfrey ac Andrew Hearne, sylfaenwyr Dragon Fire and Water Services.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad cyfunol yn y gwasanaeth tân, gwnaethant sefydlu Dragon Fire and Water Services ar ddiwedd 2021, gyda’r nod o fanteisio ar eu gwybodaeth fanwl o ymladd tanau trefol a gwledig i newid y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu ar gyfer effeithiau arbennig sydd angen glaw, digwyddiad gwlychu ac yswiriant tân ar gyfer cynyrchiadau’r teledu a ffilmiau.

Gan ddefnyddio eu fflyd o gludwyr dŵr, argaeau ac offer pwmpio arbenigol, mae Andrew, Ryan a’u tîm cynyddol yn darparu eu gwasanaethau mewn stiwdios a lleoliadau lle mae angen diogelwch ychwanegol neu ddŵr ar gyfer effeithiau arbennig. Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau wrth ffilmio, lle mae’r criw yn actio ac yn cyflawni dilyniannau cyffrous mewn golygfeydd ymladd tân, neu achosion sy’n golygu bod angen cymorth y gwasanaethau brys.

Mae’r ddau’n rhedeg Dragon Fire & Water Services o’u lleoliad ar Heol Penarth yng Nghaerdydd, sy’n agos iawn at rai o stiwdios mwyaf Cymru. Hyd heddiw, mae Andrew a Ryan wedi gweithio ar lawer o brosiectau mawr yng Nghymru, gan gynnwys rhoi cymorth i RealSFX ar gyfres newydd Disney Plus, a gafodd ei ffilmio yn Stiwdios Dragon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a llawer o gynyrchiadau mawr eraill sy’n parhau i fod yn y cyfnod cyn-rhyddhau ar hyn o bryd.

Llwyddodd Andrew a Ryan i godi arian cyfalaf i lansio eu menter newydd drwy raglen Benthyciadau Busnesau Newydd Banc Busnes Prydain. Gyda’r cymorth a chyngor cywir gan Business in Focus, partner cyflwyno swyddogol y rhaglen Busnesau Newydd, gwnaethant dderbyn swm cyfunol o £50,000. Galluogodd y gronfa iddynt ddatblygu eu cyflenwadau fflyd ac offer, yn ogystal ag ar gyfer eu cyfalaf gweithio.

Maent wedi llwyddo i dyfu eu busnes, gan greu rhywbeth unigryw iddyn nhw eu hunain yn y farchnad, ac mae Andrew a Ryan bellach yn gweithio gyda rhai o enwau adloniant mwya’r byd. Maent wedi llwyddo i ennill prosiectau mawr ers dechrau eu cwmni, sy’n dystiolaeth o’u gweledigaeth a’u ffordd o weithio.

Ein nod yn Business in Focus yw rhoi cymorth i entrepreneuriaid i’w helpu nhw i gyflawni eu breuddwydion. Os oes gennych freuddwyd i ddechrau busnes, gall Business in Focus eich cefnogi chi.