Bydd y Tocyn Rhannu Gweithle Diderfyn yn galluogi aelodau i gael mynediad i ddesgiau rhannu gweithle, cyngor ar fusnes a llawer mwy yng nghanol y Drenewydd.
Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd wedi cyflwyno Tocyn Rhannu Gweithle Diderfyn fydd yn rhoi’r cyfle i aelodau ddefnyddio desgiau rhannu gweithle, cyngor ar fusnes a llawer mwy. Mae’r Hwb wedi ei leoli dafliad carreg o ganol y Drenewydd yn yr Adeilad Pryce Jones hanesyddol. Mae’r tocyn, sydd nawr ar gael, yn costio £50 y mis a bydd yn darparu mynediad i fannau rhannu gweithle yn yr Hwb o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am – 5:00pm.
Mae gan yr Hwb leoedd rhannu gweithle lle gall pobl ddod ynghyd i weithio mewn amgylchedd cydweithredol a chreadigol. Profwyd fod gan rannu gweithle nifer o fanteision megis gwell cynhyrchiant, cyfleoedd i rwydweithio, gweithio ar y cyd, a hwb mewn creadigrwydd, ymysg y rhai mwyaf poblogaidd. Mae’n cynorthwyo i leihau biliau ynni, lleihau eich ôl troed carbon a chynhyrchu llai o wastraff.
Dywedodd Holly Jones, Rheolwr Hwb Menter Ffocws y Drenewydd:
“Os ydych angen lle tawel i weithio, mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd ar gael i chi. Mae’r Hwb mewn lleoliad gwych yng nghanol y Drenewydd, gyferbyn â’r orsaf drenau ac mae digon o le i barcio. Mae’n cynnig lle rhannu gweithle difyr, ystafelloedd cyfarfod, gyda chyfle i fanteisio ar gymorth dechrau busnes. Mae ein Tocyn Rhannu Gweithle Diderfyn newydd, am £50 y mis yn unig, yn galluogi aelodau i gael mynediad i fannau rhannu gweithle’r Hwb o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 9:00am – 5:00pm, byddant yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn safon busnes, te, coffi a dŵr yn rhad ac am ddim, a manteision ychwanegol bod yn aelod y byddwn yn eu cyhoeddi’n fuan iawn.”
Bydd tanysgrifwyr y Tocyn Rhannu Gweithle Diderfyn yn derbyn manteision eraill hefyd, gan fod yr Hwb wedi cysylltu â nifer o fusnesau lleol i gynnig gostyngiadau unigryw. I weld ble gallwch gael y manteision hyn, ewch i’n gwefan neu rhowch alwad i’r Tîm!
Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd wedi ei leoli yn agos at siopau coffi a bwytai petaech angen rhywbeth i’w fwyta. Dau funud o gerdded ydyw o’r orsaf drenau ac mae’n hawdd cyrraedd ato mewn car, ac mae digon o le i barcio ar y safle.
I archebu eich Tocyn Rhannu Gweithle Diderfyn heddiw, ewch i – hwbsmenterffocws.cymru/gofod-cyd-weithio
Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd sydd wedi’i leoli yn Royal Welsh Warehouse, y Drenewydd, Powys, yn fan arloesol i ddeor a chyflymu busnesau newydd yn ogystal â’r rheiny sy’n tyfu. Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.