Fel cleient, rhanddeiliad neu bartner i Busnes mewn Ffocws, rydym eisiau tawelu eich meddwl ein bod yn cymryd y camau priodol i ddiogelu ein gweithwyr a'r rheiny sy'n defnyddio ein gwasanaethau mewn ymateb i achosion coronafeirws COVID-19. .
Yn ystod y sefyllfa unigryw hon, ein blaenoriaeth bob tro fydd diogelu iechyd a llesiant ein cydweithwyr a chleientiaid. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli nawr, yn fwy nag erioed, ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn medru parhau â'n gwasanaethau i fusnesau Cymru wrth inni ymdopi â'r amgylchiadau gwbl newydd hyn.
Mae ein Tîm Parhad Busnes yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu ein cynlluniau parhad ac addasu ein hymatebion i'r amgylchiadau newidiol.
Mae rhan helaeth o'n busnes eisoes yn defnyddio model busnes gweithio o bell, felly rydym yn barod iawn i gynnig gwasanaeth gwydn. Byddwn yn chwim ac yn ymatebol i anghenion ein cleientiaid wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Drwy gydol hyn, rydym yn dilyn arweiniad Llywodraeth y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ACAS, ac wedi gweithredu'r mesurau canlynol:
Byddwn yn adolygu'r sefyllfa'n barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i gyngor diweddaraf y llywodraeth ac ein bod yn darparu'r lefel uchaf bosib o gefnogaeth i'n cleientiaid. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd achosion Covid-19 yn cyflwyno heriau unigryw a chwbl newydd i'n cleientiaid o ran sut y maent yn rhedeg eu busnesau neu sefydliadau, ac rydym eisiau tawelu eich meddwl ein bod yma i helpu i'ch arwain hyd gorau ein gallu.
Katy Chamberlain
Prif Weithredwr
16
Hydref
2020
|
18
Awst
2020
|
28
Gorffennaf
2020
|
20
Mawrth
2020
|
19
Mawrth
2020
|
7
Tachwedd
2019
|
7
Tachwedd
2019
|
1
Tachwedd
2019
|
5
Ebrill
2019
|
8
Chwefror
2019
|
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020