Podlediad: Cefnogi eich Busnes yng Nghymru wedi Covid a Brexit Wales 

17/08/22

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales

Siaradodd ein Rheolwr Datblygu Busnes, Sarah Cockwill, gyda Business News Wales, i drafod yr effeithiau parhaus mae Covid a Brexit wedi eu cael ar fusnesau yng Nghymru a pha gymorth y gellir ei roi i’w cynorthwyo i ffynnu.  

Mae Business in Focus wedi cynorthwyo a chefnogi sawl busnes yng Nghymru i oroesi effaith negyddol Covid a Brexit. O gynnydd mewn costau i brinder staff a phroblemau cadwyni cyflenwi, mae sawl busnes wedi gorfod newid ac addasu’n gyflym.

Gan gynnig ystod eang o gymorth i fusnesau, waeth beth fo’u maint, mae Business in Focus yn cynorthwyo busnesau wrth i effaith tymor hir covid, a Brexit, ddechrau dangos, ond nid yw pob un o’r rhain yn ddrwg. Mae cynorthwyo busnesau i fynd ar-lein, addasu eu marchnata, a symud i fodel hybrid o weithio yn ddim ond rhai o’r ffyrdd mae Business in Focus yn cynorthwyo busnesau yn y normal newydd hwn.  

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales