Business in Focus yn cyflwyno’r Cadeirydd newydd ei benodi
23/11/22
23/11/22
Business in Focus yn cyhoeddi penodiad sy’n torri tir newydd, wrth i gyd-sylfaenydd a chyn Brif Weithredwr Admiral, David Stevens CBE, gamu i’r adwy fel Cadeirydd y Bwrdd.
Gan annerch y gynulleidfa Business in Focus am y tro cyntaf fel cadeirydd a siaradwr gwadd, bydd David Stevens yn rhannu ei weledigaeth ar gyfer y cwmni yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 30 Tachwedd yng Nghlwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia.
Fel cyd-sylfaenydd a chyn Brif Weithredwr yr unig gwmni FTSE 100 ar waith yng Nghymru, mae gan David lawer iawn o brofiad a mewnwelediad ar arloesedd busnes, ac mae’n edrych ymlaen at ei drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wrth i Business in Focus ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall o roi cymorth busnes arbenigol.
Dywedodd Prif Weithredwr Business in Focus, Phil Jones:
“Mae Business in Focus bob amser wedi bod yn ffodus iawn o gael arbenigwyr hynod ymroddgar a phenderfynol ar ei Fwrdd. Mae gweld David yn ymuno â’r tîm yn anrhydedd, a byddwn oll yn edrych ymlaen at glywed ei farn ar entrepreneuriaeth yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae ei brofiad, drwy fod yn rhan o un o fusnesau newydd mwyaf llwyddiannus Cymru, yn dod â dealltwriaeth unigryw a manwl o’r ecosystem busnes, twf y farchnad a dyfodol entrepreneuriaeth yng Nghymru.”
Mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac Arddangosfa Frecwast Business in Focus yn ôl wedi dwy flynedd, ar ôl y pandemig, a bydd yn gyfle cyffrous i arddangos ein cleientiaid a’n tenantiaid, ac i ddathlu ar y cyd eu llwyddiannau.
I gadw lle, cliciwch yma i fynd i wefan Eventbrite neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni ar – marketing@businessinfocus.co.uk.