Clwb Pêl-droed Hwlffordd yn Lansio yn y Siop Dros Dro
12/01/23
12/01/23
Mae Clwb Pêl-droed Hwlffordd ar y blaen, yn cystadlu yng nghynghrair pêl-droed uchaf Cymru, sef Uwch Gynghrair Cymru (Cymru Premier). Ȃ’r rheiny’n awyddus i ymgysylltu â’u cymuned leol ar gyfer y tymor i ddod, cafwyd y cyfle perffaith i’r tîm dreialu’r syniad o ganolfan gymuned a chyfle i arddangos eu nwyddau yn siop dros dro Gofod a Rennir Hwlffordd. Cyflwynwyd Gareth, sef Rheolwr Hwb Gofod a Rennir, i reolwyr y Clwb a’r Cadeirydd, Robert Edwards, yn Stadiwm Ogi Meadow Bridge i drafod y cyfle i gydweithio a chael gwell dealltwriaeth o nod y Clwb.
Yn dilyn sgyrsiau cadarnhaol a chyfnod o baratoi, agorodd y Clwb ei ddrysau i lansio’r ‘Nyth’ ar 13eg Awst 2022, yng nghwmni 40 o bobl, ac fe ffilmiwyd yr achlysur ar gyfer Sgorio, sef rhaglen bêl-droed boblogaidd S4C. Mae’r Nyth yn siop un stop boblogaidd i gefnogwyr, busnesau ac aelodau o’r gymuned gael darganfod mwy am raglen gymunedol y Clwb.
Mae’r Clwb wedi ymuno ag ‘Aspire 2Be’ yn ddiweddar, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol ym maes busnes ac addysg ar draws y rhanbarth. Mae hyn wedi rhoi cyfle i’r entrepreneur ifanc, Kian Devine o ‘That Football Drawing’, weithio gyda’r siop a chael gwerthu ei nwyddau yno, sy’n cynnwys mygiau a phrintiau. Bydd Gofod a Rhennir Hwlffordd yn parhau i weithio ochr yn ochr â Chlwb Pêl-droed Hwlffordd i ddatblygu eu gweithgareddau yn y gymuned, ynghyd â datblygu a thyfu’r clwb.
Dwedodd Wynhdam Williams, Rheolwr Cymunedol, “Bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn siop un stop i gefnogwyr, busnesau ac aelodau o’r gymuned gael gwybod mwy am raglen gymunedol y Clwb, gan ddarparu cyfle i chwarae rhan a chefnogi datblygiad a thwf y Clwb at y dyfodol. Bydd hefyd yn rhywle y gall pobl ymweld ag ef i brynu nwyddau’r clwb, gan gynnwys mygiau a phrintiau. Mae’n grêt cael gweithio gyda Gofod a Rennir Hwlffordd a Busnes Mewn Ffocws i dreialu’r prosiect newydd hwn yn y dref.”