Podlediad: Amddiffyn diwylliant o fewn arferion gwaith

20/08/22

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales

Siaradodd ein Rheolwr Adnoddau Dynol, Andrea Wallbank, â Newyddion Busnes Cymru, i drafod sut y cafodd diwylliant a llesiant eu cynnal yn y cwmni drwy gydol y pandemig a sut mae wedi addasu i’r arferion newydd, gan arwain at achrediad Aur Buddsoddiad mewn Pobl.

Arweiniodd y pandemig Covid-19 at gynnydd mewn gweithio gartref, ac wedi hynny cyflwynwyd y model gweithio hybrid.  

Er ei fod yn cyflwynoheriau i ddiwylliant y gweithle, gan gynnwys ymdeimlad o dîm ac ymgysylltu, roedd yn cyflwyno llawer o gyfleoedd hefyd. 

Mae gweithleoedd wedi gweld cynnydd mewn cynhyrchiant ac ymreolaeth ac wedicael cyfleoedd i wella cynhwysiant. Gan fod gweithio hybrid yma i aros, i helpu i greu cydbwysedd, mae Business in Focus wedi gweithio i feithrin ymdeimlad cryf o ddiwylliant a llesiant yn eu model gweithio hybrid. 

Drwywerthuso’r hyn oedd eisoes ar waith o fewn y busnes, ailwampiodd Business in Focus ei arferion i fod yn fwy addas ar gyfer gweithio hybrid. O recriwtio ac ymuno i gyflwyno gweminarau yn hytrach na gweithdai, gwnaethant ymdrechu i gynnal agweddau allweddol ar y busnes.  Gan edrych y tu hwnt i ddiwylliant cwmni, daeth Business in Focus â’r ymdeimlad o ddiogelwch a deimlwyd mewn swyddfa i weithio hybrid drwy arferion lles, fel teithiau gwaith cwmni a darparu rhyngweithio cymdeithasol drwy ddigwyddiadau ar-lein.

 Wedi ennill achrediad Gwobr Aur Buddsoddiad mewn Pobl yn ddiweddara Gwobr Aur Llesiant Buddsoddiad mewn Pobl, mae Business in Focus yn dangos ei ymrwymiad i barhau i ganolbwyntio ar gymorth a llesiant. O ystyried eu gweithlu, teuluoedd ac ymdrechu i sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu, mae’r achrediad yn arwydd allanol o’u hymrwymiad.

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales