Diweddariad ar ein Cynllun Coronafeirws Wrth Gefn
Fel cleient, rhanddeiliad neu bartner i Busnes mewn Ffocws, rydym eisiau tawelu eich meddwl ein bod yn cymryd y camau priodol i ddiogelu ein gweithwyr a’r rheiny sy’n defnyddio ein gwasanaethau mewn ymateb i achosion coronafeirws COVID-19. .
Yn ystod y sefyllfa unigryw hon, ein blaenoriaeth bob tro fydd diogelu iechyd a llesiant ein cydweithwyr a chleientiaid. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli nawr, yn fwy nag erioed, ei bod hi’n hanfodol bwysig ein bod yn medru parhau â’n gwasanaethau i fusnesau Cymru wrth inni ymdopi â’r amgylchiadau gwbl newydd hyn.
Mae ein Tîm Parhad Busnes yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu ein cynlluniau parhad ac addasu ein hymatebion i’r amgylchiadau newidiol.
Mae rhan helaeth o’n busnes eisoes yn defnyddio model busnes gweithio o bell, felly rydym yn barod iawn i gynnig gwasanaeth gwydn. Byddwn yn chwim ac yn ymatebol i anghenion ein cleientiaid wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Drwy gydol hyn, rydym yn dilyn arweiniad Llywodraeth y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ACAS, ac wedi gweithredu’r mesurau canlynol:
- Rydym yn osgoi teithio nad yw’n hanfodol – o fewn y DU a thramor – nes clywir yn wahanol. Mae ein timau a’n partneriaid yn cynnal cyfarfodydd dros y ffôn a thrwy gysylltiad fideo, lle bynnag bo modd.
- Rydym wedi gohirio ein holl ddigwyddiadau a gynhelir ac yn ffrydio’n fyw lle bo modd – yn ogystal â datblygu gweminarau a digwyddiadau eraill y gellir eu ffrydio er mwyn cefnogi ein cleientiaid a’n cymunedau.
- Rydym yn atgoffa ein cydweithwyr bod pob un ohonom yn gyfrifol am wneud popeth y gallwn i amddiffyn ein hunain a’n gilydd, a dilyn canllawiau swyddogol Llywodraeth y DU.
- Rydym yn gweithio’n galed i gadw ein safleoedd ac ardaloedd busnes ar agor er mwyn galluogi ein tenantiaid i redeg eu busnesau. Rydym yn gweithredu mesurau hylendid, glanhau a phellhau cymdeithasol ychwanegol er mwyn diogelu pobl hyd gorau ein gallu.