Cynllun Kickstart – Sicrhewch gyllid 100% er mwyn cynnig lleoliad gwaith
A allech chi gynnig lleoliad gwaith i berson ifanc yn eich busnes?
Bydd y lleoliad yn cael ei ariannu’n llawn gan y Llywodraeth
Cyhoeddodd y Canghellor gynllun i gael gwaith i bobl ifanc sydd wedi colli swyddi a chyfleoedd oherwydd y pandemig coronafeirws.
Rydym yn rhannu’r Cynllun Kickstart, sy’n darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
Am bob lleoliad gwaith bydd y cyllid yn talu am:
- 100% o’r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 25 awr yr wythnos
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr cysylltiedig
- cyfraniadau cofrestru awtomatig lleiaf y cyflogwr
- Gwiriwch a ydych yn gymwys am y grant yma
- Gallwch weld y cysylltiadau Cyflogwr Kickstart ar gyfer eich ardal yma
- Gwnewch gais am y grant Cynllun Kickstart yma