Dyfodol Ffocws

Nod Dyfodol Ffocws, sy’n cael ei ddarparu yng Nghaerdydd, Abertawe a Chaerfyrddin yw cefnogi ein cymunedau lleol drwy gynnig cymysgedd o gefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd yn ymwneud â hunangyflogaeth a menter.

Wedi’i ddarparu drwy wahanol ddulliau ddysgu yn y gymuned er mwyn sicrhau mynediad i bawb, nid oes unrhyw syniad na chais yn rhy fawr nac yn rhy fach i’n Tîm ac rydym yma i helpu waeth lle rwyt ti ar y daith.

Cymorth i wneud y newid hwnnw

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad busnes wedi’i ariannu’n llawn, a gall ein Cynghorydd Busnes mewnol eich cefnogi, os hoffech redeg busnes neu wrthi’n dechrau busnes ac angen cymorth i wireddu eich syniad.

Rydym hefyd yn gallu cynnig cyfleoedd cydweithio a rhwydweithio gydag ystod o wahanol becynnau ar gael i fodloni anghenion yr holl ddefnyddwyr, ac maent oll yn caniatáu mynediad i’n defnyddwyr i ddefnyddio lleoliad yng nghanol y dref ac yn eich galluogi i gysylltu â busnesau lleol a gwasanaethau eraill.

Sut allwn ni eich cynorthwyo:

  • Sesiynau 1 i 1 ac mewn grŵp gyda phobl sy’n gallu siarad â chi ynghylch cyflogaeth
  • Mynediad at weminarau a digwyddiadau a fydd yn rhoi sgiliau newydd i chi
  • Cymorth i ddatblygu’ch syniadau a’ch cynlluniau
  • Cyfleoedd i chi rwydweithio a chysylltu â phobl fel chithau
  • Dysgu sgiliau newydd a fydd yn eich cynorthwyo yn y gweithle

Dewch i gymell eich hun, cael eich ysbrydoli a pharatoi ar gyfer newid!